dawnsio yn yr awel, ac y mae ei galon yntau yn dawnsio i'w canlyn. Y mae'r olygfa yn suddo i'w feddwl, ac yn d'od yn ddefnydd cysur wedi llawer o ddyddiau,—
And oft when on my couch I lie
In vacant or in pensive mood,
They flash upon that inward eye
Which is the bliss of solitude;
And then my heart with rapture fills,
And dances with the daffodils!"
Dro yn ol, yr oeddwn yn cerdded gyda chyfaill ar hyd ffordd lled anyddorol; dim coed, nac afon, na thai, ond digonedd o gerrig a meini ar bob llaw. Yn y man, cymerasom seibiant. Tynodd y cyfaill forthwyl o'i logell, a dechreuodd fanylu ar ansawdd y meini,—eu neillduolion, eu tylwyth, a'u hanes. Dywedais fod y ffordd yn un anyddorol. Yr wyf yn galw y gair yn ol. Yn nghymdeithas sylwedydd, daeth yn un o'r llanerchau mwyaf difyr, a melus yw yr adgof am dani.
III.
Y MAE y gallu hwn, hefyd, yn un tra manteisiol, ac yn un y gellir ei arfer yn ddi—dor. Y mae yn datguddio rhywbeth yn barhaus. Synia rhai fod yn rhaid iddynt fyn'd yn mhell oddicartref mewn trefn i weled pobpeth o bwys. Ond y gwirionedd yw, os felly y mae, fod y gallu i sylwi ynddynt hwy mewn stâd amherffaith. Diwyllier y gallu hwn, a daw pob llanerch yn gyfrwng gwybodaeth ac addysg. Gyda'r allwedd yma yn ei feddiant, gall dyn anturio i'r cwm mwyaf mynyddig mewn llawn hyder y daw ar draws rhywbeth gwerth ei wybod. Y mae yn y ffriddoedd, y mawnogydd, a'r corsleoedd, lawer o wybodaeth guddiedig. Clywais ffermwr yn adrodd ei fod efe, un adeg, yn codi mawn yn nghwmwd Eifionydd. Yr oedd wedi tori yn lled isel i lawr, a daeth o hyd i ryw sylwedd caled, du fel y gloyn, ac ni wyddai yn iawn pa un