ai pren ai carreg ydoedd. Taflodd ef o'r neilldu, heb feddwl mwy am dano. Un o'r dyddiau dilynol, daeth gŵr dieithr heibio y llanerch, canfu y telpyn du, a gofynodd i'r ffermwr beth a gymerai am dano. Dywedodd yntau, yn ddiniwaid, nad oedd yn werth dim ond i gyneu tân, a bod croesaw i'r gŵr dieithr wneyd a fynai âg ef. Ac felly y bu. Ond yn mhen rhai misoedd, derbyniodd y ffermwr bapur yn cynwys hanes darlith gerbron Cymdeithas Wyddonol yn Llundain, a'r testyn ydoedd, yr hen foncyff a godwyd o'r gors. Dengys hyn fod y gallu i sylwi yn dwyn pob llanerch dan warogaeth iddo ei hun; fel hudlath y swynwr, y mae yn gwneyd yr hagr yn brydferth, a'r distadl yn ogoneddus.
Nid pawb ohonom sydd yn cael treulio ein dyddiau. O fewn cyrhaedd Amgueddfa, neu arddangosfa o gywreinion. Ond, er hyny, na thristawn fel rhai heb obaith. Y mae amgueddfa fawr Anian o fewn ein cyrhaedd, a'i phyrth yn agored ddydd a nos. Y mae ei hystafelloedd yn ddirif, a'i gwrthrychau yn fyrdd myrddiwn, ac yn ymestyn o'r atom i'r bydoedd gloewon sydd yn tramwy y gwagle gwyrdd. Os gofynir beth yw y telerau a beth sydd yn amod aelodaeth, gellid ateb mewn un gair,—llygad agored a meddwl byw, y gallu i sylwi ar ei gwrthrychau. Pa le bynag y byddo hwn, gall ei berchen ddweyd fel y Salmydd," Arlwyi ford ger fy mron; fy phiol sydd lawn." Iddo ef, y mae llais ymhob awel, a gwersi yn y gronynau llwch. Y mae y fforest yn llyfrgell; y cae yd yn gyfrol o athroniaeth. Y mae hanesiaeth yn y graig, ac y mae yr afon a red heibio yn bryddest fyw. Gan hyny, gellir dweyd wrth bob un yr agorwyd ei lygaid,—Dos, rhodia'n rhydd, a deui o hyd i wersi, prydferthwch, a doethineb yn mhob man, ac yn mhob peth,—
"Tongues in trees,
Books in the running brooks,
Sermons in stones,
And good in everything."