Tudalen:Oriau yn y Wlad.djvu/116

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

BARDD Y GWANWYN.

DYWEDIR fod adeg priodol i ddarllen pob gwir fardd. Y mae ganddynt eu tymhorau, a dylid adnabod yr awr sydd yn gydnaws ag ysbrydoliaeth yr awen. Mae rhai fel yr eos, yn feirdd yr hwyr, pan fo yr awel yn falmaidd, â'r lloer yn llawn. Eraill, fel Islwyn, yn fwy cydnaws a'r hydref, pan fo swn y gwynt yn cyffroi tanau hiraeth yn y fynwes. Y mae dosbarth arall y gellir eu galw yn feirdd y gwanwyn. Y mae arogl blodau ar eu meddyliau, a swn gobaith yn eu halawon. Perthyn i'r cwmni yna y mae Elfed. "Carol Blodau'r Gwanwyn ydyw testyn un o'r caneuon, ac y mae yn ddangoseg o'r llyfr— o'r awdwr. Bu'm yn ei ddarllen am oriau yn nghesail bryn, lle yr oedd adar yn canu, coed yn deilio, afon yn trydar yn y gwaelodion, a'r briallu yn haner ymguddio dan y perthi. Agorais y llyfr, a chyn pen nemawr dyna fi yn canfod portread ffyddlon o'r olygfa:—

Gwelais lif y loew nant
Yn prysuro drwy y pant;
Gwelais wyneb blodyn bach
Ar ei glan yn fyw ac iach;
Rhedeg, rhedeg, mae'r afonydd,
Gwell gan flodau fywyd llonydd.

*****
Y mae pobpeth yn ei le
Pan yn dilyn goleu'r ne';
Aros di, a bydd yn fawr,
Brysia dithau, ddydd ac awr;
Llifo at Dduw y mae'r afonydd,
Tyfu at Dduw mae'r blodau llonydd."

Yn mha le y gorwedd arbenigrwydd Elfed fel bardd? Yr wyf yn petruso i gynyg ateb y fath ymholion, ond y