Tudalen:Oriau yn y Wlad.djvu/117

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mae y pethau a ganlyn wedi fy nharo tra yn nghyfeillach y "Caniadau" hyn.

1. Gwaith glan. Y mae gan awen Elfed wardrobe gyfoethog, gwisgoedd sidan a phorphor, a gŵyr y bardd pa fodd, a pha bryd i'w defnyddio. Dygwch allan y wisg oreu" ydyw ei arwyddair. Chwiliodd am eiriau detholedig, ac y mae y rhan fwyaf o'i frawddegau wedi eu caboli fel mynor yr Eidal. William Watson a ddywed yn un o'i ddarnau byrion:—

"Often ornateness
Goes with greatness;
Oftener felicity
Comes with simplicity;
Life is rough,
Sing smoothly, O Bard."

Dealla Elfed y gyfrinach ddedwydd hon. Y mae ei ganiadau yn ornate, ac yn syml yr un pryd. Beth yn fwy syml na'r llinellau i'r "Llanw" tawel:—

Mae'r llanw yn dod i fyny'r afon
Ac anadl y don yn lleithio'r awelon.
'Mae'n dod, mae'n dod—a blodau'r ewyn
Megis briallu y môr yn ei ddilyn.
Mae'n llifo ar led o geulan i geulan
A'i wynion fanerau yw edyn y wylan.
Mae'r llanw'n dod; a swn y Werydd
Yn murmur heibio'r pentrefi llonydd."

Da fyddai i'n beirdd ieuainc gofio cynghor Watson, ac astudio caneuon Elfed,—

"Life is rough,
Sing smoothly, O Bard."

Pa le y ceir y llyfnder a'r melodi os nad mewn cân?

2. Gallu i bortreadu. Dywed rhywun mai ystyr y