Tudalen:Oriau yn y Wlad.djvu/118

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gair "darfelydd" ydyw—y ddawn i weled y fel, y tebyg, a'i ddarlunio. Yr oedd y gallu hwn yn gryf yn Longfellow. Desgrifia adlewyrchiad y lleuad lawn ar lanw y môr,—

"Like a golden goblet falling
And sinking into the sea."

Ac y mae caniadau Elfed wedi eu britho â'r un peth. Y mae ei ddarfelydd yn fywiog a ffyddlon i Natur. Dyma rai llinellau a geir yn y bryddest benigamp "Gorsedd Gras:"—

"Fel y don yn troi yn flodau arian yn ngoleuni'r lloer.
Fel mae cusan gwyn y wawr yn agor llygaid blodau'r byd.
Fel y mellt yn troi yn wlith yn nghlir dawelwch hafaidd nos,
Felly pob ddrychfeddwl ieuanc dry'n y nef yn emyn dlos. "

3. Craffder gwelediad. Y mae y bardd yn medru gweled drychfeddwl mewn lleoedd annisgwyliadwy. Daw awgrymiadau iddo o agos a phell. A defnyddio syniad Watson unwaith yn rhagor; dywed efe mai un gwahaniaeth cydrhwng y cerflunydd a'r bardd ydyw hyn—Y mae y cerflunydd yn cyfarch yr angel yn y mynor diffurf, ac yn dyweyd—"Yn awr, mi a'th ollyngaf yn rhydd." Ond am y bardd, y mae yntau yn canfod angel o ddrychfeddwl yn crwydro drwy y gwagle, ac yn dyweyd wrtho—" Tyred i mewn a gorphwys. Gwnaf i ti gartref, a chei weini cysur i bererinion.

Llwyddodd Elfed i letya angylion yn y caniadau hyn. Gwelodd un o honynt yn ngeiriau olaf Golyddan—"Peidiwch holi heddyw," un arall mewn mabinogi henafol, ac un wed'yn yn ymguddio yn mhlygion breuddwyd Bunyan,—"Yr awr euraidd." Ond un o'r engyl tlysaf oedd hwnw a ymrithiodd iddo mewn angladd ddiwrnod cynauaf"—un o'r caniadau mwyaf tyner yn y llyfr:—