Tudalen:Oriau yn y Wlad.djvu/12

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ond dyma ni ar y top. "Sedd Glyndwr" oedd hen enw y llecyn. Gosodwyd y garnedd bresenol, yr hon sydd ar ffurf "buddai gnoc," er coffadwriaeth am briodas Tywysog Cymru yn 1863. Onid oes yma olygfa ardderchog? Ar y dde, dacw ddyffryn hudolus Llangollen, a phelydrau haul y gorllewin yn goreuro creigiau Eglwyseg. O'n blaen y mae Moel y Gaer, a godreu Dyffryn Clwyd. Ar y chwith, ymestyna dyffryn cyfoethog Edeyrnion. Mor brydferth yr ymddengys y brif-ffordd sydd yn ymestyn fel llinyn gwyn am filldiroedd! Mor fawreddog y mae yr hen Ddyfrdwy yn dolenu dros y dolydd! Odditanom y mae tref Corwen fel—ïe, fel beth? Wel, tebyg ydyw oddiyma i sarph hir-braff newydd lyncu an fail, ond heb gael amser i'w ddadansoddi! Ond eisteddwn i lawr i edrych o gwmpas, ac i ymgomio ychydig am rai a adwaenwn gynt. Yn y coed tewfrig acw, ar y dde, y mae palas y Rhaggatt, hen breswylfod y Llwydiaid. Yn nes atom y mae y Pentref, a bu un Mr. —— yno am lawer blwyddyn. Yr oedd yn wr hynod yn ei ffordd, ac yn byw, symud, a bod, fel "gwr boneddig." Elai i ambell gyfarfod misol perthynol i'r Methodistiaid yn yr ardaloedd. Wedi dod yn ol, gofynid iddo, "Sut gyfarfod oedd yno, Mr. ——?" Cyfarfod da iawn," fyddai yr ateb, ond odid; "yr oedd yno gystal darn o beef ag a fuasech yn hoffi ei wel'd ar fwrdd!" Pawb at y peth y bo, onide? Ar ein cyfer y mae Trewyn Fawr, cartref y diweddar John Davies am lawer blwyddyn. Gwr cadarn, tawel, oedd ef, a gwr o gyngor doeth. Ni siaradai lawer, ond yr oedd delw synwyr a barn ar ei ymadroddion. Ei hoff eiriau yn y gymdeithas eglwysig ydoedd," Gwylia na ddyco neb dy goron.—Yr hwn a barhao hyd y diwedd.—Bydd ffyddlawn hyd angeu." Cymeriad arall adnabyddus oedd "Jack Pencraig." Yn yr Ysgol Sul, un tro, gofynid i'r dosbarth esbonio yr ymadrodd, "yr ethnig a'r publican." Deffiniwyd yr olaf yn lled rwydd fel casglwr trethi, ond nid oeddynt