Tudalen:Oriau yn y Wlad.djvu/13

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mor sicr am yr ethnig. Wedi peth ystyriaeth, dywedai Jack ei fod o'r farn nad oedd yr ethnig yn ddim amgen na Relieving Officer! A dyna Jack Owen, cydymaith ffyddlawn i John Barleycorn am lawer blwyddyn. oedd gallu y brawd hwn i gael "glasied" yn ymylu ar fod yn athrylith. Mor ddoniol y byddai yn desgrifio y "rûmitis" yn ei aelodau! Ac yr oedd yn gryn fardd. Amser a ballai i mi nodi amryw eraill oeddynt yn "ffigiwrs" amlwg ar heolydd Corwen. Maddeued y darllenydd i mi am ei ddenu at y pwnc, ond dichon mai hwn fydd yr unig gofiant a ysgrifenir am rai a feddent lawer o hynodion mewn cyfeiriadau neillduol. Yn awr, y mae yn bryd i ni ddisgyn. . . . Wel, dyma ni wedi cyrhaedd y gwaelod. Cyn i'r nos ein dal bwriadaf ymneillduo i'r fynwent. Ië, dyma y llanerch lle gorwedd fy mam. Llawer tòn sydd wedi golchi trosof er pan welais hi ddiweddaf; ond y mae hi yn dedwydd huno "lle gorphwys y rhai lluddedig." Ni chafodd lawer o gysuron bywyd; dioddefodd boenau llym, ac yr oedd priddellau y dyffryn yn felus iddi. Carai fi yn fawr; gofalai am danaf fel canwyll ei llygad. ei llais yn disgyn ar fy nghlyw yn awr, o'r cyfnod hyfryd hwnw pan oeddwn yn hogyn direidus yn mhentref Ty'nycefn. "Mor anwyl, mor anwyl yw nam!" Ond ychydig o honom sydd yn sylweddoli hyny nes ei cholli yn nos y bedd. Mor falch fuasai ganddi fy ngweled! Ond, efallai ei bod yn edrych arnaf y funud hon. Modd bynag, bydd mynwent Corwen yn gysegr- edig yn fy nheimlad ar gyfrif y ffaith mai yno y gorphwys llwch yr un fu yn gofalu ac yn pryderu cymaint droswyf yn mlynyddau cyntaf fy oes. Ffarwel! Boed heddwch i anwyl weddillion fy mam.

III.

Y MAE yn foreu teg, a chyn i'r haul gyfodi yn ei wres, yr wyf am wahodd y darllenydd gyda mi i ardal neill-