Tudalen:Oriau yn y Wlad.djvu/14

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

awn rhagom yn ddiymdroi i gyfeiriad Brynbrith. O'n cwmpas y mae amaethwyr y gymydogaeth ar eu llawn egni gyda'r cynhauaf gwair. Lled syn genyf hefyd yw pasio Brynbrith. Lle enwog am garedigrwydd ydoedd yn yr amser fu-llety fforddolion mewn gwirionedd. Coffa da am "Sian," y ferlen ffyddlawn fu yn cludo cynifer o "genhadon hedd" i'r oedfa ddau o'r gloch yn Ucheldref. A phan yn "fachgen ysgol," un o'r rhai mwyaf poblogaidd yn ein mysg oedd " John Brynbrith"; ond machludodd ei haul tra yr ydoedd eto yn ddydd. Siomwyd gobeithion goreu ei berth- ynasau a'i gydnabod yn ei farwolaeth annisgwyliadwy; ac y mae ei rieni caredig wedi cefnu. Arall sydd yn y fangre yn awr. "Un genedlaeth a ä heibio, ac un arall a ddaw." Ond rhaid i ni brysuro rhagom ar hyd y ffordd gul sydd yn arwain heibio Penycoed; ac y mae arogl gwair yn llwytho yr awel. Dyma y Gate Goch, ond p'le y mae yr hen deulu? Nid yw y lle ond murddyn. A ydyw "Dafydd" ar dir y rhai byw? Yr ydym yn nesau at yr Ucheldref—hen adail ardderchog fu yn balas yn y dyddiau gynt. Yn un o'r ystafelloedd y pregethid ar nawn Sabboth; ac yr wyf yn cofio yn dda am yr hen bwlpud candryll. Ystafell drymaidd ydoedd, a chafodd aml i gymydog gyntun melus yma. tra y byddai y pregethwr yn ymboeni" yn y Gair a'r athrawiaeth." Wedi galw am enyd yn Moel Aden, yr ydym yn troi ar y dde, heibio Parc Uchaf, ac yna yn dechreu disgyn i waered i'r Bettws. Ie, dacw fe! mae oddeutu pymtheng mlynedd er pan fuom yn sefyll yn y fan hon o'r blaen, ac ni raid i mi ddweyd fod teimladau rhyfedd yn fy meddianu. Teimlwn rhyw berlewyg yn cerdded droswyf! ond rhag digwydd beth a fyddai gwaeth, daeth Dr. heibio ar geffyl, ac wedi tipyn o siarad (ni ddylid cadw Doctor yn hir), adfeddianais fy hun, a dechreuais edrych o gwmpas.