Tudalen:Oriau yn y Wlad.djvu/15

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ymddengys y Bettws ei hun yn lle llwydaidd, eto y mae yr ardal yn hynod o brydferth. Ond y mae arnom eisieu talu ymweliad â lleoedd neillduol. Wyddost ti lle mae Ty'nygraig, machgen i?" meddwn wrth hogyn ar y ffordd. Safodd yn syn am foment, ac ebai, "Does yno yr un ty 'rwan; neb yn byw er 'stalwm." Rhyfedd iawn! Aethum ar draws y cae, a chefais fod stori y bachgen yn wirionedd. Nid oedd yno ond y muriau moelion; ond y mae adgof yn fy nghynorthwyo i ddelweddu y fan fel yr ydoedd pan y galwn ef yn "gartref." Dyma yr hen aelwyd; acw y safai y cloc; yna yr oedd y ffenestr fechan lle tywynai haul y boreu i'r siamber ddiaddurn. Mae y graig eto y tu cefn i'r ty, a'r goedwig lle y cwynfana awel y nos yn aros fel cynt. Ond prudd-bleser ydyw aros yn mysg yr adfeilion hyn. Awn tua'r pentref. Pwy ydyw y gwr prysur, bywiog, acw? Tybed mai fy hen ysgolfeistr? Ond y mae ei gyfarchiad yn ddigon i wasgar pob amheuaeth ar y pwnc. Athraw da oedd——. Y mae wedi cyfnewid y swydd hono er's tro. Y mae yn awr yn ymwneyd â sylwedd meddalach nac ymenyddiau plant y Bettws. Y mae y pentref bron fel yr oedd ugain mlynedd yn ol, ond fod y tai yn llawer mwy adfeiliedig. Yn y preswylwyr y mae y cyfnewidiad mawr. Y mae yr efail yn ddistaw, a'r gofaint wedi diflanu. Ar y chwith y mae heol gul lle y byddai "Jane Jones" yn arfer gwerthu bara gwyn. Y mae hithau wedi myn'd a'r ty yn furddyn. John Jones, y White Horse, nid yw mwy. Aethum i fyny i gyfeiriad "ty'r person," er mwyn talu ymweliad â bwthyn Tycoch, lle y bum yn byw am ysbaid. Yno cefais fod pethau bron fel y gadewais hwynt. Yn y lle hwn y mae genyf y cof cyntaf am "bapyr newydd." Yr oedd rhyw ryfel yn bod ar y pryd, a byddai y papyr yn dod i'n ty ni ar ei daith drwy yr ardal. Yr oedd un papyr yn gwasanaethu i bentref cyfan y pryd hyny! Wrth ddychwelyd, rhedai fy meddwl at y diweddar Mr. Hughes, offeiriad y