Tudalen:Oriau yn y Wlad.djvu/16

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

plwyf. Gwr a'i lond o natur dda ydoedd. Ni adawai i blentyn ei basio ar y ffordd heb ryw air caredig. Dychmygaf ei weled yn awr gyda'i fochau gwridog, a i het silk wedi cochi gan oedran. Ond odid na ofynai i mi ryw gwestiwn yn nglyn â hanesiaeth y Beibl, a mawr fyddai ei foddhad os gallwn ei ateb. Drwg iawn genyf ddeall nad oes carreg ar ei fedd. Yn sicr, y mae ei goffadwriaeth yn haeddu gwneuthur hyn iddo. Yr oedd yn wladwr da, yn wr o ysbryd eang a charedig, yn ymwelydd rhagorol â'r profedigaethus, ac yn dilyn. heddwch â phawb. Bu farw yn 1877, wedi bod yn offeiriad y plwyf am 25 o flynyddoedd.

IV.

LLE yr ydym, dywedwch? Mewn rhyw swn tebyg i swn corddi odditanom yn rhywle. O, yn Amaethdy Blaenddol, onide? Yno yr aethum i'r gwely neithiwr, beth bynag. Y mae yn fore hafaidd, ac yn y buarth gwelaf y bechgyn cyhyrog oedd gyda mi y noson gynt yn dadlwytho y gwair. Ar ol boreufwyd, ac wedi canu yn iach, yr ydym yn cychwyn ar hyd y ffordd gysgodol sydd yn arwain at Bont Melin Rug. Difyr ydyw syllu ar y cloddiau lle y tyf y mefus, clychau y gog, y gwyddfid, a'r rhosyn gwyllt. Mae rhywbeth yn anwyl yn y blodeuyn mwyaf diaddurn y ffordd hon. Dyma loeyn byw yn ysgafn hedeg heibio. Sawl gwaith y bum yn erlyn ei frodyr yn y dyddiau gynt! Ond cei lonydd yn awr, greadur tlws. Y mae edrych arnat yn ddigon o fwynhad. Wedi bwrw golwg ar Rydyfen, ac ysgol ddyddiol Moel Adda, yr ydym yn troi am ychydig i Efail Gruffydd Dafis, gerllaw y Bont. Son am Eisteddfod Corwen! Dyma y llywydd anrhydeddus mewn cae yn ymyl y ffordd yn trin gwair gyda'i holl egni. Y mae Cefn Rûg wedi ei adnewyddu er dyddiau yr hen Williams. Darn prydferth o ffordd ydyw hon; y mae yn anhawdd peidio aros i sylwi ar y coed noble