Tudalen:Oriau yn y Wlad.djvu/17

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

sydd yn sefyll fel gwylwyr o amgylch. Ceir yma ambell i dderwen sydd bron yn berffaith mewn cymesuredd. Yr wyf yn sylwi fod y llwybr at y pysgodlyn wedi ei gau i fyny. A dyma y "tair celynen,"— mangre adnabyddus i breswylwyr yr holl ardaloedd. Nid ydynt mor drwchus ag y byddent yn y blynyddau gynt. Wedi cerdded ychydig yn mhellach, deuwn at yr Elusendai, lle y cafodd aml i hen bererin gysgod yn hwyr ei oes. Y mae yn gofus genyf am Jenny Roberts. Yn ei thy hi y cynelid cyfarfod plant Capel Rûg. A dyna Tudur a Citi Hughes,—pâr hynod yn eu dydd; Edward Thomas a Jenny Dafis—yr oll yn meddu ryw oddities personol. Nid yw Ty'nycefn yn ymddangos yn lle hynod i ddyn dyeithr, ond i hen drigianydd y mae yn llecyn gwir ddyddorol. Awn heibio yr ychydig dai sydd yma, ond ofer disgwyl gweled yr hen wynebau. Y mae Dafydd Roberts y Saer, un o oreuon y ddaear, wedi noswylio er's blynyddau. Gwag yw gweithdy John Hughes y Crydd. Distaw iawn, mewn cymhariaeth, ydyw yr Efail. Da genyf gael ymgom gydag Eryr Alwen. Cawsom lawer o flas yn adgofio troion y daith; yr adeg y byddem yn dyfod i'r Efail i fyned dros yr "adroddiad" neu y "ddadl" erbyn y Penny Readings neu y Band of Hope yn Nghorwen. Ni fynem anghofio dydd y pethau bychain. A'r pryd hyny byddai yr Eryr ei hun yn adrodd " Cywydd y Daran," a'r Gof," gan Gwilym Hiraethog, ac yn canu "Morfa Rhuddlan " gyda llawer o arddeliad. Cyn dychwelyd i Gorwen rhaid i ni gael gweled Capel Rûg, ac esgyn yr hyn a elwid genym yn "Dop Ceryg Gravel! " mae y llyn wedi ei sychu i fyny. Llawer codwm gafwyd yma ar y rhew. Yr ydym yn canfod fod mynwent Capel Rûg wedi ei chyfyngu am ryw reswm neu gilydd. Golwg hardd sydd ar y coed yw o'i chwmpas. Y mae yr hyn a dybiem oedd yn fedd-faen i ryw geffyl enwog yn aros fel cynt. Awn i'r capel,— adeilad hynod ar lawer cyfrif. Y mae y cerfiadau yn