Tudalen:Oriau yn y Wlad.djvu/18

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dangos ôl llafur a medr arbenig. Edrycha yr oll fel darn o'r cynfyd; a phrin y mae yr organ sydd yno yn awr yn cyd-daraw a'r adeilad. Esgynwn i'r oriel, ac yn y distawrwydd ceisiwn lanw y lle â'r gynulleidfa fyddai yn arfer dod yma flynyddau yn ol. Teulu y Wagstaffs oedd yn Rûg yr adeg hono, ac yr oeddynt yn hynod egniol gyda'r Ysgol Sabbothol, ac amcanion da eraill. Wedi myned drwy y fynwent, yr ydys yn cerdded gravel walk i gyfeiriad y Rûg. Ar gŵr uchaf y cae y mae derwen gangenfawr, ac o'i chwmpas er's talm yr oedd sedd syml a adwaenid fel "Sedd Lady Vaughan." Yr oedd yn lle campus i gael golwg gyflawn ar y wlad o amgylch. Ond fel llawer o bethau da eraill, y mae wedi ei symud. Cawn sefyll yma enyd i syllu ar yr hen lanerchau. Fel panorama o flaen ein llygaid y mae Glan Alwen, Dolglesyn, y rails gwynion (y maent yn ddigon llwydaidd yn awr), Pont Corwen, Penybont, Glandwr, Bryntirion, Tyucha'r llyn, &c.; ac fel background i'r olygfa y mae y Berwyn urddasol, a'r glaswellt a'r grug wedi eu cyfrodeddu fel mantell am dano. Ar ei gopa y saif Tynewydd Rûg (yr enw sydd yn newydd,—y mae yr adeilad yn dechreu myned yn hen), a dacw y ffordd sydd yn arwain igam-ogam tuag ato. Os mai Lady Vaughan a orchymynodd wneyd y sedd oedd yn y llecyn hwn, rhaid cydnabod ei bod yn meddu llygaid i weled anian. Anaml y ceir golygfa fwy amrywiol a chyfoethog. Ond yn nghanol yr holl degwch, nis gallaf beidio edrych yn hir ar Dy'nycefn. Y mae yn un o'r llanerchau mwyaf cysegredig yn fy nheimlad.

A bydded a fyddo drwy helynt fy oes,
Chwythed yr awel yn deg neu yn groes,
Boed afon fy mywyd yn arw neu lefn,
Mi gofiaf, anwylaf yr hen D'ynycefn!