Tudalen:Oriau yn y Wlad.djvu/19

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

V.

AR fin nos tawelfwyn, y noson olaf i mi fod yn Nghorwen, —aethum yn nghymdeithas Rhuddfryn i ben Moel y Gaer. Pan oeddwn yn hogyn, nid oeddwn yn meddwl fod dim yn rhyfedd yn y cylch ceryg sydd ar gopa y mynydd. Ond wedi gweled llawer o gyfeiriadau at y fan mewn llyfrau tebyg i Pennant's Tours in Wales, yr oeddwn yn fyw o gywreinrwydd i dalu ymweliad personol â'r adfeilion. Bum yn dra ffodus yn fy nghwmni. Bardd yw y guide goreu i le fel hyn; gall ei ddychymyg ef wisgo esgyrn hen draddodiadau â gïau ac â chroen. Yr ydym yn dringo yn araf a phwyllog, fel y gweddai i feirdd. Gall dyeithriaid Seisnig wibio dros ein mynyddau, ond braint meibion Ceridwen ydyw myned yn hamddenol i fwynhau golygfeydd natur! Mor dawel yw pobpeth o'n cwmpas! Y mae awelon yr hwyr yn falmaidd, a ninau yn tramwy trwy gnwd tew o redyn gleision. Nid oedd yn rhyfedd i awen fy nghyfaill fyned bron yn aflywodraethus! Yr oedd pob sylw yn mynu dod allan yn ngwisg y gynghanedd. Gallesid meddwl ar y pryd fod barddoni mor hawdd ag anadlu, a dichon ei fod dan ddylanwad ysbrydoledig golygfeydd fel hyn. Nid wyf yn cofio degwm y llinellau difyfyr a gyfansoddwyd. Dyma un specimen,—

I Foel y Gaer-nefol goryn—hybia
Anthropos a Rhuddfryn;
I wel'd Awst yn arlwyo dyn
Hefo'i wledd yn ngnhwd y flwyddyn.

Ond dyma y Gaer ei hun wedi ei chyrhaedd. Cerddwn yn araf o'i chwmpas. Y mae gweddillion y mur allanol, yr hwn a weithreda fel gwrthglawdd, oddeutu haner milldir o amgylchedd. Ar y cwr uchaf ceir adfeilion amlwg hen ystafelloedd, lle bu dewrion gynt yn ym-