Tudalen:Oriau yn y Wlad.djvu/20

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

barotoi gogyfer â dydd y frwydr. Fel hyn y dywed Pennant am y lle:—

"Nid oedd gorsaf neu amddiffynfa Caer Drewyn ond un o'r gadwyn a ddechreuai yn Dyserth, ac a barheid hyd fryniau Clwyd, mynyddoedd Iâl. . . . . . . Dyma oedd encilfanau y preswylwyr yn amser rhyfel; yma y gosodent eu gwragedd, eu plant, eu hanifeiliaid, o dan warchodaeth gref, neu efallai tylwyth neu genedl gyfan ynddynt, nes yr enciliai y gelyn; oblegid ni allai byth fyw mewn gwlad lle y byddai pob math o ymborth wedi eu diogelu fel hyn."

Y mae yr un hanesydd yn desgrifio y fan fel y canlyn:

"Perthyna i'r amddiffynfa hon ddwy fynedfa. Yn agos i'r ochr ogledd-ddwyreiniol y mae ysgwar hirgul, yn ychwanegol at y prif weithiau; ac yn gymaint a bod y tir yn y fan hono yn lled fflat, cadarnheir ef à ffos fawr a mur. Oddifewn y mae olion hen adeiladau; y n mae un o honynt yn gylchyrog, ac yn amryw latheni o drawsfesur. . . . . Tybir fod Owain Gwynedd wedi meddiannu yr orsaf hon tra yr oedd Harri II. yn gwersyllu ar fryniau y Berwyn, ar yr ochr arall i'r dyffryn. A dywedir fod Owain Glyndwr hefyd wedi defnyddio y lle fel encilfa achlysurol."

Balch fuasem o wybod pa fath olwg oedd ar Gorwen a'r amgylchoedd pan oedd y Gaer hon yn nyddiau ei gogoniant. Ond y mae niwl yr oesau yn gorchuddio yr Bu Rhuddfryn a minau yn eistedd yn y tawelwch gerllaw olion yr hen ystafelloedd, ac yn ceisio dwyn. y gorphenol i'n gwyddfod: Y mae catrawd o filwyr Owain Glyndwr yn y lle yn mwynhau ychydig seibiant. Gosodir y bwa a'r waewffon o'r neilldu. Wedi trefnu y gwylwyr ar y muriau allanol, y mae y corn metheglin yn cael ei basio o'r naill law i'r llall oddimewn, a thra y mae y telynorion yn goglais y tànau, cyfyd y swyddog hynaf i gynyg iechyd da "Glyndwr ac Annibyniaeth Cymru." Ond wele, breuddwyd oedd! Nid oes yma ond y ceryg, y rhedyn, yr awel, a dau fardd wedi yfed braidd yn uchel o gwpan gwladgarwch yr hen