Tudalen:Oriau yn y Wlad.djvu/21

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddewrion anwyl! Y mae y cof am eu gwrhydri yn peri i'r galon guro yn gyflymach. Gresyn fod eu hanes gymaint dan orchudd! Ymladdwyd rhai o frwydrau Rhyddid yn yr ardaloedd hyn; a phan yn cerdded yn ddidaro ar hyd y llanerchau yma, y mae yn eithaf posibl ein bod yn sangu ar lwch rhyw arwr a gwym podd yn aberth i ormes y Sais. Gwir a ddywedodd Ceiriog:-

Mewn anghof ni chânt fod
Wŷr y cledd, hir eu clod,
Tra'r awel dros eu beddau chwyth.
O! mae yn Nghymru fyrdd
O feddau ar y ffyrdd
Sy'n brif-ffordd hyd ba un y rhodia
Rhyddid byth!

Wedi treulio awr ddedwydd yn nghanol yr adfeilion. llwyd, yr ydym yn gadael Moel y Gaer i fwynhau y tawelwch sydd yn teyrnasu o'i deutu er's llawer oes. Yn annibynol ar ei thraddodiadau, y mae yr olygfa oddiar ei choryn yn fendigedig. Rhaid myned yn bur bell i weled coedwig mor urddasol a "Choed y Fron." Yn min hwyr edrycha yn debyg i gatrawd o filwyr; y coed derw sydd o'r blaen fel out-posts yn gwylio y gelyn, a'r goedwig ei hun fel square Brydeinig, yn aros y marching orders! Gellir desgrifio yr holl ardal yn ngeiriau prydferth Dewi Havhesp,—

Ei dolydd gwastad, heulog—ar hyd fin
Dyfrdwy fawr, drofaog;
Ei llwyni gwyngyll enwog,
Pàu dan gamp-Eden y gôg!

Os dymuna rhyw feirniad draethu ei lên ar dref Corwen a'r amgylchoedd, cynghorwn ef i esgyn Moel y Gaer cyn cyhoeddi ei ddedfryd. Diolch i Rhuddfryn am ei gymdeithas adeiladol.