Tudalen:Oriau yn y Wlad.djvu/23

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o dan y bont. Gorchwyl celfydd oedd taflu y bwa hwn dros y ceunant. Os yw y darllenydd yn awyddus am esboniad ar y gair aruthredd, safed am enyd ar y llecyn hwn. Ond awn rhagom tua Thynant. Yma y mae capel newydd hardd gan y brodyr Wesleyaidd. Gwelwn fod yr hen gapel wedi ei droi yn siop saer. Yn y caeau o'n cwmpas gwelir y ffermwyr yn brysur gyda'r gwair. Cymerwn ychydig seibiant ar bont Llangwm. Y mae y pentref ar yr aswy, ond yn guddiedig o'r lle hwn. Yno y bu y prif-fardd Elis Wyn o Wyrfai. Dacw gapel yr Annibynwyr ar lethr y cwm. Yn nes atom y mae addoldy y Methodistiaid, er nad yw ei ffurf yn awgrymu hyny. Mae yr haul yn gogwyddo at fachlud, a'r olygfa o'r lle hwn yn hynod o dlos. Mor wahanol yw gwedd y Ceirw yn y dolydd hyn i'r hyn ydoedd pan yn diaspedain rhwng creigiau y Glyn! Ond nid oes i ni yma ddinas barhaus, rhaid brasgamu tua'r Cerrig. Bore dranoeth yr ydym yn cychwyn yn ngherbyd y Parch ——, —— i Fettws-y-coed. Y mae y brawd anwyl hwn yn gydymaith dyddanus, ac nid anghofiaf "Tommy" y merlyn chwaith. Ar brydiau safai ar ganol y ffordd, ac nid oedd un gallu a'i symudai nes yr ewyllysiai ei hun. Doniol oedd gwrando Mr. W. yn dweyd stori, ac yn anerch Tommy rhwng cromfachau. Soniai am ei bregeth fel "tamed plaen." Adroddai am dano ei hun yn dweyd yn rhywle, gan gyfeirio at ei bregeth: Fydda i yn sylwi fod pobl pan yn dwad i'r wlad am iechyd yn leicio tamed plaen (Tommy), a rhyw damed plaen sydd gen ine i'w osod ger eich bron (Tommy). Ond hwyrach pe bae ni yn troi i holi ar ambell bregeth blaen (Tommy) y byddai yn fwy anhawdd ateb nac y buasech chi'n meddwl 'rwan (Tommy), &c." Fel yna wrth ymddiddan, ac annog Tommy cyrhaeddwyd i Bettws-y-coed,—pen y daith yn y cerbyd hwnw. Ac yr wyf finau wedi cyrhaedd pen y daith gyda'r adgofion hyn. Bydded gwenau nef a daear yn tywynu yn ddidor ar yr "hen gymydogaeth."