Tudalen:Oriau yn y Wlad.djvu/27

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

HAF-DAITH YN LLEYN

DICHON y dywedir nad ydyw Lleyn yn meddu unrhyw hudoliaeth na swyn er ad-dynu ymofynwyr pleser a difyrwch. Y mae hyny yn eithaf posibl. Nid yw y trigolion hyd yma wedi dechreu coginio pleserau celfyddydol ar gyfer y sawl a ymwelant a'r fro. Maent yn hynod garedig; ni chaniatant i neb, o'u gwirfodd, newynu yn eu plith. Ond fe addefwn yn rhwydd fod y mwynhad ellir gael ynglyn â haf-daith yn Lleyn yn dibynu i gryn fesur ar feddwl a thueddiadau blaenorol y teithwyr. Nis gall y mwyaf dwl lai na synied ei fod mewn gwlad iach ei hawelon, ac amrywiol ei golygfeydd. Ond i'r neb a ŵyr ychydig am hanes y wlad a hanes ei henwogion, y mae haf-daith drwy ranau o honi yn wir adfywiad i gorph a meddwl. A chan gadw hyn mewn golwg, bydded y darllenydd mor garedig a rhoddi "het Ffortunatus" am ei ben, ac yna ni bydd unrhyw anhawsder i ni gyd-gyfarfod yn ngorsaf Afonwen, ar linell y Cambrian, a chymerwn y tren i dref flodeuog Pwllheli. Yma yr ydym yn newid yr oruchwyliaeth. Rhaid i ni ganu'n iach i'r gerbydres: nid yw Lleyn yn ei chydnabod hi o gwbl. Y mae yno gyflawnder o feirch, o bob lliw a gradd; ond nid ydyw y "march tân" yn un o honynt. Na, yr ydym yn cefnu ar ddyfeisiau yr haner canrif ddiweddaf, ac yn wynebu ar oruchwyliaeth y cerbydau—yr old coaching days,— o ddoniol goffadwriaeth. Y mae dwy o'r coaches yn ein hymyl, ac wedi ymholi fe ddywedir wrthym fod un o honynt yn myned i Edeyrn, a'r llall i'r Tociau"-un o faes-drefi Aberdaron. Yn awr, y cwestiwn yw,—pa un a ddewiswn? Yr un yw y pris gyda'r naill a'r lall, gyda hyn o eithriad; disgwylir i ni dalu chwe cheiniog yn ychwaneg am fynd yn llythyrenol i ben