Tudalen:Oriau yn y Wlad.djvu/31

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fyny, yn nghanol ffriddoedd moelion, fe welir adeilad. Nid oes ty na thwlc yn agos ato. Dyna Eglwys henafol Llanfihangel. Druan o honi! Y mae wedi ei gadael megis "hwylbren ar ben mynydd," a

Drych o dristwch yw edrych drosti.

Ond y mae'r olygfa yn newid. Yr ydym yn dod i hafn gul; mynydd serth un ochr, a choed lawer yr ochr arall, ac felly am tua thair milldir. O'r diwedd, wele ni eto mewn eangder. Ar y dde, y mae melin; llyn gloew o'r tu uchaf iddi, a thu hwnt i hyny y mae doldir bras, a nifer o'r gwartheg harddaf ellir weled yn pori arno. Od oes ar neb eisieu syniad cywir am olygfa wledig, yn ei cheinder a'i thawelwch, dyma hi! Y mae yn un o'r llanerchau hyny sydd yn byw yn y cof. Yr ydym eto yn dod i ganol coed tewfrig, ac y mae yr olwg ar y muriau, ac yn enwedig crawciad di-daw y brain yn awgrymu ein bod yn nesau at ryw balas. Gyda llaw, onid bodau aristocrataidd iawn yw y brain? Nythant gerllaw y palasau. Y mae rhyw reddf yn eu harwain at fawrion y tir. Ond y mae y palas yr ydym yn myned heibio ei furiau wedi ymguddio yn y coed, heb ewyllysio bod yn amlwg i fwthynod gwerinaidd y wlad. Wedi dod allan o'r llwyn, cawn olwg fendigaid ar dir a môr. O'n blaen ar y chwith y mae yr eigion gwyrdd. Dacw Ynysoedd St. Tudwal's bryniau Cilan, a mynydd y Rhiw. Rhyngddynt y mae rhes o greigiau rhwth. Mae eu henw yn arswydus—Safn Uffern. Ond heddyw y mae nifer o gychod pysgota yn cyniwair yn ddifyr o amgylch y fan. Wedi bwrw trem ar ysgol Bottwnog ar y dde, a chael ymgom am ei hanes, yr ydym yn nesau at le nad yw yn ffrostio dim yn ei enw, beth bynag- Rhyd bach. Yma cawn olygfa sydd yn ein hadgofio am y "Village Blacksmith" gan Longfellow. Dacw efail y gof yn cael ei chysgodi gan goeden ganghenfawr.