pentref. Wedi cyrhaedd ei gopa yr ydym wyneb yn wyneb à golygfa newydd; math o wastatir unffurf yn ymestyn yn mlaen am filldiroedd. Yr ydym wedi cefnu ar y coedwigoedd; y mae Natur yma wedi diosg ei haddurniadau, ond y mae ei symledd hi yn brydferth, yn arbenig pan y coronir hi gan law yr Haf yn "Frenhines Mai."
Ar ein haswy y mae ffermdy golygus; ei enw ydyw Bodnithoedd. Dyna hen drigfod Owain Lleyn—bardd a llenor tra chymeradwy. Bu efe yn yr ardaloedd hyn. yn debyg fel yr oedd bardd Cefnymeusydd yn Eifionydd,—yn achleswr i lenyddiaeth Gymreig. Yr oedd ei gymeriad personol, hefyd, yn ddiargyhoedd. Hynod oedd Bodnithoedd yn y dyddiau hyny fel canolbwynt lletygarwch a charedigrwydd. Ebai un o'r beirdd:—
Penyffordd i bob ymdeithydd,
Cartref clyd i weision Duw
Oedd Bodnithoedd; hen gyfeiriad,
Teimlai pawb rhyw serch-atyniad,
Lle'r oedd Owain Lleyn yn byw.
Bu farw yn 1867, yn 81 mlwydd oed, a gorwedd ei weddillion yn mynwent Bottwnog. Y lle nesaf y deuwn ato ydyw Capel Bryncroes. Dyma un o'r addoldai Ymneillduol hynaf yn y wlad. Golwg eithaf diaddurn sydd arno, ond y mae yn un o'r lleoedd hynny sydd yn "garedigion oblegid y tadau." Gerllaw y capel y mae mynwent, ac yn ei daear hi y mae amryw o gedyrn Cymru Fu yn mwynhau melus hûn y gweithiwr. Yma y gorffwys Ieuan Lleyn, bardd poblogaidd yn ei ddydd (1770-1832). Y mae amryw o'i ganiadau yn aros ar lafar gwlad. Cyfansoddai, fel rheol, yn ol yr hen arddull gynganheddol, a dywedir fod y rhan fwyaf o bobl Lleyn, flynyddau yn ol, yn medru ei gân i "Ofyn Ffon." Dywedir ei bod yn grynhoad