Tudalen:Oriau yn y Wlad.djvu/36

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Hefyd, yr oedd Ieuan yn Emynwr nid anenwog. Efe ydyw awdwr yr emyn,

Rwy'n gweled bod dydd, &c.

Ac y mae ei gofiantydd-Myrddin Fardd-o'r farn mail efe, hefyd, a biau yr hawl i'r emyn,

Tosturi Dwyfol fawr
At lwch y llawr sy'n bod

Un arall o'r hen bererinion sydd yn huno ym mynwent Bryncroes ydyw Charles Marc, un o gynghorwyr" y Methodistiaid. Efe ydyw awdwr-

Teg wawriodd arnom ddydd,

a

Dysg fi i dewi, megis Aaron.

Brodor o ardal Bryncroes ydoedd Morus Gruffydd, arlunydd Thomas Pennant. Ceir amryw ddarluniau o'i eiddo yn yr argraffiadau cyntaf o'r Tours in Wales.

Gwr arall o'r un fro ydoedd William Rowland, awdwr hyglod Llyfryddiaeth y Cymry (1802-1865).

Ond rhaid ymatal. Yr ydym, weithian, yn ngorsaf Penygroeslon, yn mherfeddion y wlad. Gadawn y cerbyd, a thrown ar draws y meusydd sydd ar y dde. Mae y cloddiau wedi eu goreuro gan flodau yr eithin, a chlywir llais y gôg o gyfeiriad Rhos hir waen.

Y mae yr haul ar ei ogwydd, a'r glasfor yn ddrych o hedd. Hwyrnos Sadwrn ydyw; pen tymor-calan Mai! Gwelir llanciau bochgoch yn cyfeirio yn brysur tua'u cartrefi am ychydig seibiant cyn dechreu yn y "lle newydd." Golcha llanw bywyd i bob traeth: daw heibio i bob gradd. Mae newid "lle" yn ffaith bwysig yn nghyrfa "hogyn gyru'r wedd." Braidd na ddarllenwn gymysg deimlad yn wynebpryd ambell un o