Tudalen:Oriau yn y Wlad.djvu/37

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

honynt, wrth iddo basio, a'i becyn dan ei gesail, tua rhyw fwthyn yn nghanol y wlad.
***** Y mae yr ehedyddion yn distewi; a pheidiodd cân y fwyalch yn y twmpathau. Teyrnasa rhyw dawelwch rhyfedd ar bob llaw,

Yna'r hwyr gain a rydd
Fàr o aur ar fôr y Werydd.

Neillduwn ninau, ddarllenydd, i'r ffermdy gerllaw, lle y cawn luniaeth iach, a hanesion difyr y dyddiau gynt.