YN MRO GORONWY.
[Ymddangosodd yr ysgrif ganlynol yn "Mwrdd y Llenor; " adargrefir hi ar gais yr hen ddarllenwyr.]
YMDDENGYS fod yr hysbysiad a wnaed am fwriad aelodau y Bwrdd i ymweled âg ardal genedigaeth a maboed Goronwy Owain wedi cael ffafr yn ngolwg lluaws o garedigion llenyddiaeth. Un prawf o hyny ydoedd y ffaith i amryw o honynt anfon at yr ysgrifenydd i ddeisyf am gael uno â'r pererinion. Yr oedd y trefniadau wedi cael eu hymddiried i Asiedydd, oblegid ein cychwynfa oedd Llangefni. Cyrhaeddasom yno yn brydlon, a chawsom y pleser o weled amryw lenorion, tra yr oedd Asiedydd yn parotoi y cerbyd oedd i gludo y "Bwrdd" i Lanfair. Ond dyma hysbysiad yn ein cyr- haedd fod y cerbyd yn barod. Gwnaethom bob ymgais 1 fyned drwy Langefni mor ddistaw ag yr oedd modd, ond mynai lluaws ein hanrhydeddu drwy sefyll yn y drysau i edrych arnom. Buom yn hynod ffodus yn ein gyriedydd. Prin yr oeddym wedi myned allan o'r pentref, a throi ar y chwith, nag y dechreuodd y cyfaill hwn gyfeirio ein sylw at leoedd dyddorol, gweddillion hynafiaethol, &c. Yn sicr ddigon, bachgen clyfar ydyw R. T. Gallem feddwl ei fod yn yriedydd wrth natur. Drivers oedd ei dadau. Yr oedd ei daid a'i hen daid yn yriedyddion o ddylanwad yn yr old coaching days. Ac y mae yntau wedi etifeddu eu hathrylith. Y mae ei ddoniau yn helaeth, a'i ffraethder yn hollol naturicl. Buasech wrth eich bodd yn gwrando arno yn adrodd am dano ei hun yn drivio rhyw foneddwr a boneddiges (wrth gwrs!) drwy Nant Gwynant, ar ddiwrnod o wlaw taranau. "Nid smalio bwrw y mae hi ffor hono," ebai.