Yr oeddwn i yn lýb at y nghroen er's meityn, a chawn i ddim gyru.—Take your time,' medde nhw o hyd. Welis i ddim pobl yr un fath erioed: mwynhau yn braf yn nghanol y glaw i gyd. Wedi i ni gyredd yr hotel, welwch chi, yr oedd yn rhaid, ie, yr oedd yn rhaid i mi gymryd croper o frandy! Ond son yr oeddym am wybodaeth hanesyddol ein gyriedydd.
Yr oedd yn rhyfeddol mewn gwirionedd. Nid oedd dim braidd na wyddai rhywbeth am dano. Un peth sydd yn cyfrif am hyn ydyw ei fod wedi bod yn drivio llawer iawn o foneddigion fyddent yn cymeryd dyddordeb mewn henafiaethau, ar hyd a lled y wlad, ac wedi rhoddi swm helaeth o'r hyn glywodd ar adegau o'r fath yn ei gof. Soniai, hefyd, am ryw "lyfr" oedd ganddo yn rhoddi hanes yr ardaloedd yr oeddym yn myned drwyddynt, a phen ar bob dadl oedd fod y peth a'r peth yn y "llyfr." Nid oedd yn amheu dim. Yr oedd ei ffydd yn mhob traddodiad yn ddisigl. Ac wrth wrando arno yn dyweyd yn sobr am "Lyn yr wyth Eidion," y "Tair Naid Stond," a'r darlun ffyddlawn sydd o'r Apostol Pedr yn Eglwys Llanbedrgoch, nis gallem lai na derbyn y cyfan fel gwirionedd.
Yr oeddym yn gadael Rhosymeirch ar y chwith, ac yn myned trwy y Talwrn. Yma gelwid ein sylw at dy ar ochr y ffordd—cartref bardd ieuanc tra addawol o'r enw Chwilfryn Mon. Dipyn yn mlaen, ar y chwith, yr oeddym yn pasio y Marian,—lle prydferth, a chartref Marian Mon, y llenor adnabyddus. Bellach yr oeddym yn dyfod i olwg ardaloedd prydferth mewn gwirionedd. Ar y dde, yr oedd Penmynydd enwog, mynydd y Llwydiarth, ac o'n blaen yr oedd coedwigoedd y Plas Gwyn, y Traeth Coch, y Castell Mawr, &c. Ac O! mor fendigedig oedd gwedd pob gwrthddrych, bach a mawr. Delw yr haf ar y cyfan. Nid oedd cysgod gwywdra na dadfeiliad ar ddim. Yn wir gallesid meddwl oddiwrth y cyflawnder o fywyd ar bob llaw fod gauaf wedi ei alltudio yn oes oesoedd.