Tudalen:Oriau yn y Wlad.djvu/41

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Glasinfryn, yr hynaf yn y sir. Yn mlaen, ar yr aswy, y mae Plas Goronwy, ond nid oes unrhyw gysylltiad rhwng y lle hwn a Goronwy Owain. Onid oedd Goronwy Ddu o'i flaen ef? Dywed W. P. mai un o'r croesgadwyr a adeiladodd Blas Goronwy. Yn awr, dyma ni yn ngolwg Brynteg—lle y bu farw yr hyawdl John Phillips (Bangor), a chartref y diweddar Barch. John Richard Hughes. Ond, atolwg, pwy yw y gwyr sydd yn cerdded yn bwyllog o'n blaenau? Ceir ffon gref gan un, umbrella gan y llall, ac y mae cyfrol drwchus dan gesail y trydydd. Pererinion ydynt, a'r un yw eu neges a'r eiddom ninau, sef ymweled a chartref Goronwy. Cymeraf fy nghenad i'w cyflwyno i'r darllenydd. Mae y cyntaf yn wr lled fyr, corphol, ysgwyddau llydain, ysgwar—golwg urddasol a chadarn, medda wyneb da—trwyn Rhufeinig, dau lygad byw, chwareus, a'i holl wyneb yn llefaru tirionedd a natur dda. Efe yw yr olaf o bawb y buasech yn ei gyfrif yn euog o "gydfradwriaeth," ac eto felly y mae! Y mae yn gydymaith o'r fath a garem ar daith fel hon. Teimla y dyddordeb mwyaf yn hanes Goronwy, a medda rai pethau anghyhoeddedig am dano. Efe yw ein llywydd heddyw, a theimlir yn hollol ddiogel dan ei nawdd. Mae y nesaf o bryd goleu, gwr lled ieuanc, ac adnabyddus fel bardd. Yr ydych yn sylwi fod cyfrol o waith "Goronwy" dan ei fraich. Yn yr un fintai yr oedd gwr cymdeithasgar, yn gwisgo spectol; a'r dilledydd enwog o Bentraeth. Y mae efe yn edmygydd o Goronwy, ac y mae rhyw sail i dybied fod rhai o'i henafiaid wedi bod yn "mesur" y bardd am gôb ddu!

Wel, dyna'r lle oeddym yn fintai fechan, yn symud yn bwyllog a hamddenol, a'n gwynebau tua chartref gwreiddiol prif fardd Mon. Pa bryd y gwelwyd pererindod gyffelyb o'r blaen? Nid oedd gwobr nac enw yn y cwestiwn. Nid oedd cadair na bathodyn yn aros neb ohonom. Ein hamcan syml oedd talu gwarogaeth syml i goffadwriaeth Goronwy fawr ei athrylith, a