Tudalen:Oriau yn y Wlad.djvu/42

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mawr ei helbulon, a cheisio yfed ysprydiaeth newydd i astudio ei weithiau. Teimlad rhyfedd a feddianai amryw ohonom pan yn syllu am y waith gyntaf ar fro mebyd Goronwy; ymwthiai llinellau o'i farddoniaeth a darnau o'i lythyrau i'n cof.

II.

"Mountain, bay, and sand-bank were bathed in sunshine; the water was perfectly calm; nothing was moving upon it, nor upon the shore, and I thought I had never beheld a more beautiful and tranquil scene."

"Prosperity to Llanfair! and may many a pilgrimage be made to it of the same character as my own."
—GEORGE BORROW.

Y mae weithian dros ddeugain mlynedd er pan fu awdwr y llyfr hynod a elwir "Wild Wales" ar ymweliad â Bro Goronwy. Ar ddiwedd ei ddesgrifiad o Lanfair, dymuna am i lawer pererindod gyffelyb i'r eiddo ef gael ei gwneyd i'r fan. Nis gwyddom i ba raddau y cafodd ei ddeisyfiad ei sylweddoli o hyny hyd yn awr; ond gwyddom am un bererindaith a gafodd ei gwneyd i'r lle, a hyny i'r un amcan. Y mae George Borrow wedi darfod â theithio'r ddaear, ond yn ein byw nis gallem beidio meddwl am dano tra yn ardal dawel Llanfair. Yr oedd y diwrnod a gawsom ninau yno mor dêg a hafaidd a'r un a ddesgrifir gan Borrow:—mynydd, bâu, a thraeth megis wedi eu trochi mewn heulwen, yr olygfa yn ddigymhar mewn tlysni a hedd. Onid meddwl am y fangre ar ddiwrnod cyffelyb i hwn a gynhyrfodd awen Goronwy i ddyweyd mewn geiriau anfarwol:—

Henffych well, Fôn, dirion dir,
Hyfrydwch pob rhyw frodir;
Goludog, ac ail Eden,
Dy sut, neu Baradwys hen;
Gwiw-ddestl y'th gynysgaeddwyd,
Hoffder Duw Ner, a dyn wyd