Tudalen:Oriau yn y Wlad.djvu/46

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Oes; a synwn ni ddim nad yw y wraig yn y ty yn awr. Gadewch i ni droi i mewn.

Felly y bu. Cawsom y pleser o weled, ysgwyd llaw, ac ymddiddan gyda Mrs. Jones,[1] y wraig dda a ganmolir gan Borrow yn ei ddesgrifiad o Lanfair. Y mae yn cofio am ei ymweliad fel doe. Boneddwr o bryd goleu ydoedd, heb fod yn dal iawn: canol oed y pryd hyny, ac yn siarad Cymraeg yn lled chwithig. (Meddyliai ef ei fod yn berffeithrwydd pob tegwch fel Cymro!). Yr oedd yn cofio am dano ei hun yn estyn y "siwgr gwyn"—nwydd lled brin yr adeg hono, ac mor siriol a dirodres yr oedd yr ymwelydd yn ymddiddan gyda hwynt. Dywedai iddo wrth fyned ymaith roddi "pisyn deuswllt" yn ei llaw—y darn cyntaf o'r fath iddi weled yn ei hoes! Dyma eiriau Borrow ei hun pan yn ysgrifenu am y cyfarfyddiad:—

My eyes filled with tears; for in the whole course of my life I had never experienced such genuine hospitality. Honour to the Miller of Mona and his wife! and honour to the kind hospitable Celts in general."

Y mae "Miller of Mona"—y caredig John Jones, yn tawel huno er's blynyddau "lle y gorphwys y rhai lluddedig." Mab iddo ydyw y Parch. J. Mills Jones, Tabernacl, Mon.

Ar ol dymuno iddi hir oes ac iechyd, aethom yn mlaen eilwaith, a chyn hir daethom i olwg Eglwys Llanfair, yr eglwys y byddai Goronwy yn myned iddi pan yn blentyn; yr eglwys y bu yn gurad ynddi am "dair wythnos," pan y gorfyddwyd ef i wneyd lle i Mr. John Ellis, Caernarfon, ffafryn yr esgob, ac ni chafodd ddychwelyd i'w anwylaf Fon byth mwy! Yn awdl "Y Gofuned," ei ddymuniad ydyw:—

Dychwel i'r wlad lle bu fy nhadau,
Bwrw yno enwog oes, heb ry nac eisieu; .
Yn Mon araul, a man oreu—yw hon
Llawen ei dynion, a llawn doniau.


  1. Erbyn hyn y mae Mrs. Jones wedi gorphwys oddiwrth ei llafur.