Na, nid for ever chwaith! Daw y dydd
Pan ganer trwmp Ion gwiwnef
Pan gasgler holl nifer nef,
Pan fo Mon a'i thirionwch
O wres fflam yn eirias fflwch.
A'r pryd hyny, hefyd,
Cyfyd fal yd o fol âr
Gnwd tew eginhad daear,
A'r môr a yrr o'r meirwon
Fel myrdd uwch ddyfnffordd y dôn.
Try allan ddynion trillu
Y sydd, y fydd, ac a fu.
Wrth fwrw trem ar y beddfeini yn Llanfair, yr hyn oedd yn ein taraw yn bur rymus ydoedd—mor drwyadl Gymreig ydyw y brawddegau sydd wedi eu cerfio ar y cerig, yn enwedig y rhai hynaf o honynt. Mae yr iaith gref, gynwysfawr, gaboledig, yn deilwng o Goronwy. Gerllaw y fynedfa i'r eglwys gwelsom gareg ac arni y geiriau canlynol:—
"HUNFA
William ab Robert, a hunodd Ebrill 30, 1769."
Ie, "hunfa;" dyna i chwi air tlws am y ty rhagderfynedig i bob dyn byw. Ar faen arall ceir yr englyn a ganlyn:—
Ar ryw fynud terfynai—ei dymhor
Mewn damwain diweddai,
Yn ei nerth diflanu wnai,
Ar fin yr araf Fenai.
Am y beddfeini diweddar, y mae yn ddrwg genym ddyweyd fod y Gymraeg yn llawer mwy carpiog a dirywiedig. Gallasem nodi esiamplau, ond y maent