Tudalen:Oriau yn y Wlad.djvu/50

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yno i'r hwn a ewyllysio eu gweled. Pa le bynag y goddefir i'r iaith Gymraeg gael ei llurginio, y mae pob rheswm yn dyweyd na ddylid caniatau hyny yn Llanfair!

Ond yr hyn y meddyliem am dano wrth blygu uwchben y naill feddfaen ar ol y llall ydoedd—Tybed a oes yma goffadwriaeth am rywrai o berthynasau lluosog Goronwy? Yr oedd yr un peth yn cyniwair drwy feddwl George Borrow pan yn y llanerch. Y mae efe wedi dethol y beddargraph a ganlyn:—

"Er cof am Jane Owen,
Gwraig Edward Owen.
Monachlog, Llanfair Mathafarn Eithaf,
A fu farw Chwefror 28, 1842,
Yn 51 oed."

Ond tystia W. P. nad oes unrhyw berthynas rhwng teulu y Fonachlog â theulu Goronwy, er mai Owen ydyw y cyfenw. Ond gwelsom feddfaen arall, a buom yn syllu cryn lawer arno. Y mae mewn cadwraeth led dda, ac yn sefyll rhwng y fynedfa allanol a thalcen yr eglwys. Dyma yr argraph sydd arno:—

"ER COF
am
Owain ab Owain, Swyddog y glo, yn y Traeth Coch. Bu farw Mai 9,
1793. Ei oed 88."

Gwelir fod yr Owain uchod wedi ei eni yn 1705, tua 17 mlynedd o flaen Goronwy; ac y mae W. P. yn gryf o'r farn mai efe ydyw yr

O x O

sydd wedi ei gysylltu âg enw Goronwy ar fur y Dafarn Goch. Os felly, yr oedd Owain ab Owain yn frawd i awdwr "Cywydd y Farn." Cyn gadael Llanfair,