Tudalen:Oriau yn y Wlad.djvu/54

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y gerbydres ar y bont y sonia George Borrow am dani yn ei Wild Wales. Fel hyn y llefara:—"I entered a most beautiful sunny valley, and presently came to a bridge over a pleasant stream running in the direction of the south. As I stood upon that bridge, I almost fancied. myself in paradise." Felly yn union yr ymddangosai y prydnawn hwn—yr afon mor loew ag arian. O fangre dawel! Ond yn y man daeth y tren i dori ar y distawrwydd. Cryn gyfnewidiad oedd myned o ganol yr awelon balmaidd i'r cerbyd twymn a llawn. Yno yr oedd rhyw Sais haner meddw yn brygawtha yn groch; aeth i lawr yn yr orsaf nesaf, a gwelwn ef yn hudo rhyw Gymro gwledig i'r dafarn oedd gerllaw.

Wedi cael lift mewn cerbyd i'r "Bedd," cychwynais drachefn ar draed i gyfeiriad Nant Gwynant. Yn y man daethum i olwg Llyn y Ddinas—dinas Emrys, hen gartref Llewelyn. Erbyn hyn yr oedd yr haul yn gogwyddo i'r gorllewin, ag awel min nos yn crychu wyneb y dwfr. Goddiweddais bysgotwr oedd yn mwynhau" mygyn" cyn dechre ar ei orchwyl. Aed i son am y llynoedd a'r afonydd oedd yn y gymydogaeth. Gwelais ei fod yn "hen law"—gwyddai am bob llan—erch lle yr oedd brithyll neu ëog yn llechu. Wedi peth siarad, dangosodd i. mi ei ystoc o blu, y rhai a gadwai yn ofalus mewn llyfrau lledr yn ei logell,—un yn dda yn y nos, un arall yn gampus wedi gwlaw, a'r nesaf—llun glöyn byw yn anffaeledig ar ddiwrnod tesog a chlir. Ac yr oedd i bob pluen ei hanes; yr oedd edrych arni yn adgofio yr ymdrech gyda rhyw bysgodyn nwyfus yn yr amser a aeth heibio. "A gwnaf chwi yn bysgotwyr dynion," ebai y Meistr. Gofynwn i mi fy hun, A ydwyf yn teimlo cymaint o ddyddordeb yn y gwaith a'r pysgotwr syml hwn? A ydwyf mor gyfarwydd âg adnodau y Beibl ag y mae ef â'i blu a'i fachau? Gyda'r holiad hwn yn fy meddwl, dymunais ei lwydd, a phrysurais tua'r capel sydd ar ochr y ffordd, wedi ei gysgodi o'r bron gan goed, a'r afon Gwvnant vn llithro