Tudalen:Oriau yn y Wlad.djvu/56

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ie, yn mhresenoldeb y fath olygfeydd yr ydym yn gweled i mewn i fywyd, i hanfod pethau. A dyma olygfa i lonyddu y llygad drwy rym cynghanedd a gallu dwfn llawenydd. Ceir yma y mawr a'r tyner, y tlws a'r arddunol, yn ymdoddi i'w gilydd. Acw y mae cadernid tragwyddol y mynyddoedd; yma ceir dail a blodau yn gwenu drwy ddagrau gwlith. Druan o'r dyn a all eistedd yn nghanol gogoniant yr haf, heb deimlo ei ysbryd yn cyffwrdd âg ymyl gwisg y Dwyfoldeb fu yn creu pob mynydd, ac yn paentio pob rhosyn! Ond daeth yr awr weddi; aethum o gysegr Natur i gysegr gras, gan deimlo fod y naill fel y llall yn "dŷ i Dduw, ac yn borth y nefoedd." A thra yr oedd haul y boreu yn arllwys dylif o wawl drwy ffenestri yr addoldy, canem hen emyn Williams:—

"Ar ardaloedd maith o d'wyllwch
T'wynu wnelo'r heulwen lân,
Ac ymlidied i'r gorllewin
Y nos o'r dwyrain draw o'i blaen;
Iachawdwriaeth!
Ti yn unig gario'r dydd."

Yn ystod y dydd cafwyd cwmni W——H——hwn sydd bellach fel Mnason, yn "hen ddisgybl". Y mae ychydig gloffni yn ei aelodau, ond nid oes arwydd cloffni na phall ar ei feddwl. Mae yn cofio "John Roberts, Llangwm," yn pregethu mewn amaethdy yn yr ardal dros driugain mlynedd yn ol. Yr oedd y gweinidog ar y pryd yn foel; a sylwai y plentyn wedi myned adref fod pen y pregethwr yn wyneb i gyd! Mae yr hen bererin yn methu deall yn glir paham na byddai mwy o "wyr y teitlau" yn talu ymweliad â chapel y Nant. Dichon mai un o'i oddities ydyw y sylw a ddyry i'r dyrysbwnc hwn. Yr un pryd, os goddefir i ddyn cyffredin draethu barn, credaf yn onest y buasai ymweled â'r ystafell ardderchog hon yn "ngholeg anian," yn adnewyddiad ysbryd i'r gwŷr