Tudalen:Oriau yn y Wlad.djvu/57

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dysgedig sydd wedi treulio blynyddau rhwng muriau y prif-athrofeydd. Ceir yma bob mantais i enill graddau—y radd o M.A. (Myfyriwr Anian), a'r radd uchel o D.D. (Dyn Dedwydd).

Boreu dranoeth cychwynais tua Pen-y-gwr-rhyd, ar hyd y ffordd sydd wedi ei chysegru yn nheimlad miloedd o deithwyr. Daethum ar fyrder i olwg Llyn Gwynant, yr hwn y mae ei glodydd, fel yr eiddo darlithwyr Cymreig, yn "fyd-enwog." Y mae ysgrifell y llenor a phwyntel yr arlunydd wedi bod yn cydymgais i delweddu ei swynion; ond "eto mae lle." Pwy, wedi cerdded y ffordd hon ar hir-ddydd haf, a anghofia yr olwg ar y palasau bychain a lechant yn y coed—y dwfr gloew-las, y mynydd llwyd, a'r defaid "gwastadgnaif" yn pori ar ei lethrau. Nid lle i fyned drwyddo gyda'r express ydyw hwn; yn araf y mae natur yn dadguddio ei chyfrinion. Wrth ddringo yr allt y mae edrych yn ol yn demtasiwn barhaus—bob yn fodfedd y carasem fyned ymlaen. Dyma ddarlun perffaith o haf: y gwartheg yn sefyll yn llonydd yn y llyn-y-bronydd yn llawn gwyrddlesni, a "swn anos yn y cymau." Y mae pob synwyr yn cael ei foddhau: y llygad gan y golygfeydd, y glust gan y seiniau, a'r arogliad gan y persawrau a gludir gyda'r awel. Wedi cerdded milldir neu ddwy yn ngwres tanbaid yr haul, daethum i gongl gysgodol; cangau y coed fel sun-shade uwch ben, ac o'r tu cefn iddynt clywir swn aber fyw yn treiglo dros y graig. Nid ydyw i'w gweled, ond O mor adfywiol ydyw ei chân! Mae gwrando arni yn adnewyddiad i'n natur. Dechreu esgyn drachefn, a'r olygfa yn eangu, ac yn myned yn fwy gogoneddus; mynydd ar ol mynydd yn ymwthio i'r golwg, a llyn Gwynant yn edrych yn dlysach ar bob tro. "Distance lends enchantment to the view." Am olygfeydd Anian fel yr eiddo gras, gellir dywedyd, yn y fan hon o leiaf,

"Pan bwy'n rhyfeddu unpeth
Peth arall ddaw i'm mryd."