Tudalen:Oriau yn y Wlad.djvu/58

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr ydym yn cael perffaith dawelwch; nid oes neb i'w weled yn myned nac yn dyfod. Mae pobpeth megis wedi ei adael—to nature and to me. Cyn cyrhaedd pen yr allt, fodd bynag, daethum at "dorwr cerig" ar ochr y ffordd. Safem ar gyfer y Wyddfa. Gofynais iddo enw y gornant arianaidd a lifai i lawr ei hystlys. Nid oedd yn sicr, ond dywedai fod yr olwg arni wedi ymchwyddo gan lifogydd gauafol yn dra gwahanol i'r hyn ydoedd y bore hwn; ei bod y pryd hyny yn wir arswydus! Galwai fy sylw at fynydd cribog ar y dde, a dywedai, "Nid oes ond llathen rhwng hwnacw a bod yr un faint â'r Wyddfa." Ond y mae y llathen yna wedi gwneyd gwahaniaeth dirfawr yn ei gyhoeddusrwydd! Y mae mil yn gwybod am y Wyddfa am bob un a ŵyr am y Crib Coch. Onid felly y mae yn mysg dynion? Y llathen" yna sydd yn gwneyd yr holl wahaniaeth. Wedi cyrhaedd man cyfarfod y ddwy ffordd ar Ben-y-gwr-rhyd, gwelwn fugail yn eistedd yn hapus gyda'i gi; a chyda theimlad diolchus eisteddais yn ei ymyl, gan deimlo fod gorphwysdra yn felus. Gofynai fy nghydymaith beth a feddyliwn o'r olygfa. Cyffesais, ac ni wadais, ei bod y fwyaf gogoneddus y bu fy llygaid yn edrych arni. Bum yn edrych ar y Wyddfa lawer gwaith, ond ni welais hi hyd heddyw. "Yr oedd Eben Fardd," ebai y bugail, "yn dweyd mai o Nant Peris yr ymddangosai y Wyddfa yn fwyaf mawreddog. (Erbyn edrych, yno yr oedd y cyfaill yn byw!) Gofynai drachefn, "A fyddwch chwi yn meddwl y bydd yr anffyddwyr—y scepticals, fel y bydd ein gweinidog yn eu galw—yn talu ambell ymweliad â'r manau hyn?" "Nis gwn," atebwn; ond y mae enwau rhai o brif enwogion y ganrif wedi eu hysgrifenu yn y visitors' book yn y gwesty yna. Beth a barodd i chwi ofyn y cwestiwn?" Hyn," ebai yntau—"a ydyw yn bosibl i ddyn edrych ar y golygfeydd hyn, ac eto wadu y ffaith fod Creawdwr a Chynhaliwr? "Ie," meddwn, "ond cofiwch fod gan ddyn allu