Tudalen:Oriau yn y Wlad.djvu/59

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rhyfedd i gau ei lygaid yn erbyn goleuni Natur, yr un fath â goleuni dadguddiad. Y gwir yw, ddyfod goleuni i'r byd, ond gwir arall ydyw, fod dynion yn mhob oes yn caru y tywyllwch yn fwy na'r goleuni." Ond i bob meddwl agored diragfarn, y mae edrych ar y fath olygfa a hon, ar y fath ddiwrnod, yn enyn ystyriaethau addolgar tuagat yr Hwn sydd "ryfedd yn ei weithred, ac ardderchog yn ei waith." Mae yn werth dringo i'r uchelfanau hyn. "Da yw i ni fod yma" yn mhob ystyr. Y byd, yn ei ddwndwr a'i helyntion, sydd yn swnio yn ein clustiau o hyd. Mewn cymdeithas yr ydym yn byw, symud, a bod.

The world is too much with us; late and soon,
Getting and spending, we lay waste our powers
 Little we see in Nature that is ours:
We have given our hearts away, a sordid boon!
*****
For this, for everything we are out of tune,
It moves us not.

Hynod o wir! Yr ydym yn ymwthio gormod i gymdeithas y byd, a rhy fychan o lawer i gymdeithas Natur. Os yw y darllenydd yn teimlo ei hun "allan o dune" o ran ei ysbryd, nis gallaf ddymuno gwell meddyginiaeth iddo na phererindod hen ffasiwn yn mro Eryri.