Tudalen:Oriau yn y Wlad.djvu/62

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

helyg sydd yn gwneyd mwyaf o show. Gwelaf dorlan draw lle y mae y "cywion gwyddau bach" yn dawnsio, fel daffodils Wordsworth, uwchben y gloew li. y sycamor a'r castanwydd yn bwrw eu dail mawrion, glydiog, a dyna lle mae y gwenyn gwylltion—fel torf o flaen chwareudy—yn disgwyl am i'r drysau agor, er mwyn iddynt gael lle da yn neuadd y ddeilen. Dechreu dihuno y mae y bedw a'r ysgaw, ond y mae y wernen wedi ymwisgo yn barod, a pha ryfedd? Onid yw ei phreswylfod wrth y dyfroedd? Lled gynar ydyw yn hanes y ddraenen, ond y mae y blagur wedi agor drws ei dŷ, a bydd mantell y blodau gwynion wedi ei gwau a'i gwisgo cyn bo hir. Yr wyf wedi bod yn sylwi ar goeden arall—y copper beach. Mae ei dail yn lled fychain, yn hynod refined, ac o liw copr. Ond yn wahanol i'r coed eraill, nid ydyw yn ymado â'i dail yn yr hydref, er eu bod yn newid eu lliw. Ceidw hwynt ar ei changau hyd y gwanwyn, ac yna daw y ddeilen newydd, a rhaid i'r "hen ddwylo" glirio i ffwrdd. Dyna drefn Natur. Wedi i unrhyw beth, boed ddeilen neu ddyn—orphen ei waith, gwneyd ei neges, dod i ben draw ei ddefnyddioldeb—rhaid myn'd wedyn. Dichon fod ambell un, fel deilen y copper beach, yn cael ei wneyd yn super-numerary hyd y gwanwyn. Ond peth diflas ydyw teimlo awdurdod y ddalen newydd yn bwrw yr hen dros y trothwy. O'r ddau gwell fuasai genyf gilio yn yr hydref nag aros hyd y delo rhyw ysbrigyn gwyrdd i ddweyd,—"Rhaid i ti ymddiswyddo, y fi sydd i deyrnasu yn dy le."

Ond dweyd yr oeddwn fod pethau yn dod allan, yn mhob twll a chongl,—pobpeth sydd a bywyd ynddo yn ymysgwyd, ac yn datguddio ei hun. Ond, atolwg, pa le yr wyt ti? Chwith oedd genyf fethu dy weled bore heddyw, er i mi ymweled ag amryw o'r hen rodfeydd. Yr oedd cawod flith wedi disgyn,—gair Edmwnd Prys, onide?

"A'i rhoi yn mwyd mewn cawod flith
I'w chnwd rhoi fendith deilwng."