Tudalen:Oriau yn y Wlad.djvu/63

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr oedd y blodau yn chwerthin ar yr haul, a dagrau melus yn eu llygaid; y nen yn ddwfn—las, a rhyw naws nefol ar ddyffryn a dol. Parai i mi feddwl am emyn Tennyson—y gwir Tennyson. Mae ambell frawd uchelgeisiol yn ystyried y gall gorphori Tennyson a Gough, os nad ereill, yn ei ddynsawd ei hun. Ond gwagedd yw'r cwbl. Un Gough a fu, ac a fydd: un Tennyson. Dyma ei benill i'r Gwanwyn,—

Opens a door in heaven
From skies of glass,
A Jacob's ladder falls
On greening grass;
And o'er the mountain walls
Young angels pass."

Ie—gair clws ydyw "greening grass." Y mae rhai o honom yn ddyledus i Ruskin am agoriad llygad i weled gogoniant pethau cyffredin, ac yn eu mysg y mae y glaswelltyn. Ynddo ei hun nid yw ond aelod dinod o gymdeithas fawr Bywyd: nid ydyw Natur wedi gwastraffu ei doniau ar ei lun a'i liw. Yr hwn sydd heddyw yn y maes, ac yfory a fwrir i'r ffwrn—byr-hoedlog a diflanedig ydyw. Ond pan wedi ei wneyd gan law anweledig y gwanwyn yn garped y weirglodd,—beth mor swynol, mor esmwyth—ddymunol i'r llygad? Y dolydd glaswelltog! Beth ellid ei roddi yn gyfnewid am danynt? Y mae yr iraidd, a'r tawel; gorphwysdra ac adnewyddiad yn d'od i ni drwy genhadaeth ddi-ymhongar y glaswelltyn.

Rhyw feddyliau fel hyn sydd yn ymdoni heibio—fel awel dros y blodau tra yr wyf yn eistedd mewn neillduaeth ar gamfa y cae. Y mae cymysg seiniau yn disgyn ar y glust. Dyna chwiban felodaidd, gyfoethog y deryn du, ac efe yn ben—cerdd. O gyfeiriad arall daw nodau uchel, dawnsiol y fronfraith—y bencerddes. Ar lwyn o ddrain gerllaw y mae