Tudalen:Oriau yn y Wlad.djvu/64

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

aderyn bychan, pert, yn canu â'i holl galon. Ychydig o nodau sydd yn ei gerdd,—un o'r brodyr lleiaf ydyw, ond y mae yn gwneyd y goreu o'i ddawn, a phwy a ewyllysiai ei wahardd? Nid ydyw Anian yn cyfyngu ar ddoniau bychain:—

"Y dryw gerllaw yn llawen
Heb och, a'r brongoch ar bren,
Ag eofndra ysgafndroed
Yn chwarau rhwng cangau'r coed."

Nid wyf hyd yma wedi gweled y wenol—"fel arf dur yn gwanu'r gwynt." Dyna bortread Emrys o honi. Hyd yma, ychwaith, nid wyf wedi clywed y gog, ond deallaf ei bod wedi dychwel dros y tonau, a chyn pen ychydig ddyddiau bydd hen ac ieuanc yn llawenychu yn ei deunod newydd-hen. Y dydd o'r blaen dywedodd cyfaill wrthyf iddo weled un o'r birds of passage newydd ddechreu ar ei foreu-bryd yn ymyl y ty. Aderyn gwrol, a phig hir, gref—a adwaenir wrth yr enw "cyffylog "—neu geiliog y coed. Yr oedd twrpath o forgrug yn ei ymyl, a dyna lle yr oedd y visitor yn planu ei big i'r pentwr, ac yn bwyta torf o honynt ar bob ergyd. Ni welodd y fath fwyta rheibus yn ei ddydd! Yr oedd yn ei adgofio am y modd y bydd plant ysgol yn arfer eu dawn mewn te parti! Wel, fe ddywed diareb, mai "nid wrth ei big y mae prynu cyffylog," a dichon fod y fordaith wedi rhoddi awch ar gylla yr ymwelydd.

Ond rhaid ymatal. Amcan y llith gwledig hwn ydyw dy wahodd o'r studio i'r maesydd. Gwelais dy ddarlun diweddaf ar wyneb-ddalen y Llenor—"Yn Sir Gaernarfon," a phe buaswn mor feirniadol ag adolygwyr y Manchester Examiner, buaswn yn rhwym o gydnabod fod hwnw yn deilwng o Nant y Bettws, a hyny ar air a chydwybod. Ond y mae llanerchau eraill yn disgwyl am danat. Mae glenydd y Seiont a'r Gwyrfai; y mae gwlad Eben Fardd a