Tudalen:Oriau yn y Wlad.djvu/65

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Dafydd Ddu, a llawer golygfa gysgodol ar lenydd y Fenai, yn dywedyd—Tyred! Y mae cân yr ehedydd yn y ffurfafen, a glesni dihalog y dolydd, yn dywedyd, Tyred!

"Mae rhosyn yr haf yn dechreu blaen-darddu
A mantell y maes yn newydd yn awr,
Mae egin yr yd yn edrych i fyny,
A'r haul yn ei wres yn edrych i lawr."

Na foed i ti, na neb arall, sydd yn caru Anian, droi yn glust-fyddar i'w gwahoddiad, na bod yn anufudd i'r weledigaeth nefol.