Tudalen:Oriau yn y Wlad.djvu/67

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ni chawn fanylu ar y pethau a welsom yn mharc y pendefig. Ond gallwn nodi dau beth o fysg llawer: yn gyntaf, yr olygfa yn ac o'r Tŵr—tŵr yr arfau yn nghanol y parc. Oddifewn iddo ceir casgliad helaeth o gâd-offer gwahanol wledydd, a chywreinion wedi eu dwyn yno o feusydd rhyfel, megis Waterloo a'r Crimea. Yma gellir gweled aml i

"hen gleddyf glas,
Luniai lawer galanas,"

yn cysgu yn ei wain. Yma hefyd ceir hen fwsgedi (muskets) trymion yn gorphwys ar y mur, ond y mae yn bosibl fod y milwyr fu yn eu handlo wedi troi yn llwch ar ryw gadfaes pell. Huned y dryll a'r cledd hyd yr adeg y bydd eu heisieu yn sychau ac yn bladuriau! Ar ben y Tŵr, drachefn, ceir ffrwyth dyfais wyddonol, sef offer i fesur grym y gwynt, ac un arall i fesur y gwlaw. Gyda y rhai'n gellir dyweyd unrhyw adeg pa faint yn yr awr y mae y gwynt yn ei deithio, a pha faint o wlaw fyddo wedi disgyn yn y gymydogaeth mewn diwrnod. Cedwir cyfrif manwl o'r pethau hyn mewn llyfr, ac y mae ynddo lawer o ddyddordeb.

Y mae yr olwg oddiar nen y Tŵr yn berffeithrwydd pob tegwch." Gwelir oddiyma fynyddoedd, dyffrynoedd, afonydd, tref a gwlad, a rhan helaeth o For y Werydd. Gallesid meddwl nad oes ragorach golygfeydd yn y Deyrnas Gyfunol, ac eto y mae yr arweinydd yn ein hysbysu mai ychydig o amser y mae y "byddigions" yn ei dreulio gartref. Beth y mae hyn yn ei brofi? Y mae y lle eang hwn wedi ei gau i mewn er mwyn y teulu sydd yn ddigon ffodus i feddianu yr etifeddiaeth; ac, yn rhyfedd iawn, nid ydynt hwythau yn aros yma ond am dymor byr mewn blwyddyn. canlyniad yw, fod manau o'r fath heb ateb un pwrpas ymarferol. Ni wna y sawl sydd yn eu meddianu drwy ddeddf eu defnyddio, ac ni chaiff y cyhoedd eu sangu