dan boen dirwy a chosb. Y mae y cwestiwn yn codi drachefn, Pa hyd y pery hyn?
Ond y peth arall a dynodd ein sylw oedd tai a chladdfa y cŵn. Oes, y mae gan "gŵn" y pendefig dai gwych—digon o le, a digon o awyr. Porthir hwy yn dda ac yn gyson. Ni wyddant beth ydyw prinder. Pan änt yn wael, y mae yma feddyg o bwrpas i ofalu am danynt. Ac wedi iddynt dynu yr anadl olaf, y mae yma gladdfa bwrpasol i gadw eu gweddillion. Ie, dodir meini ar eu beddau, ac ystyrir y llanerch yn un tra chysegredig. Pe cawsai aml i ddyn tlawd sydd yn gorfod byw mewn tŷ gwael, oer, a llaith,—boddloni lawer diwrnod ar grystyn sych, heb odid lygad i dosturio wrtho, pe cawsai weled y pethau hyn, yr wyf yn credu mai y deisyfiad hwn a ddeuai dros ei wefus,—"O na fuaswn yn gi i bendefig yn lle bod yn ddyn!
Y mae genym bob cydymdeimlad â chreaduriaid direswm; ni ddylid arfer creulondeb at gŵn, ond y mae i bobpeth ei derfynau priodol. Gresyn na fuasai cyfran o'r arian, y gofal, y caredigrwydd a'r parch a wastreffir yma yn cael ei ddangos at greaduriaid rhesymol ond anffodus; plant amddifaid, gwŷr a gwragedd anghenus, y rhai sydd i'w cael mewn cyflawnder oddiallan i furiau parc y pendefig. Ysywaeth, y mae drama Deifas a Lazarus yn cael ei chwareu yn mhob oes. Y mae y cŵn yn well allan, am ysbaid, na'r cardotyn. Ond y mae yr olygfa i newid yn y man: y pryd hyny, "oddiallan y bydd y cŵn." Beth am eu meistriaid?
Nid ydym, ddarllenydd, yn coledd unrhyw eiddigedd at bendefigion. Y mae yn wir eu bod yn meddu miloedd o aceri o'r tir brasaf yn Nghymru, ac nid oes genym ninau gymaint a "thair acer a buwch" i ymffrostio ynddynt! Ond beth am hyny? Yr ydym yn gadael y Parc eang ac ardderchog hwn gyda'r ymsyniad ein bod wedi ei wir "etifeddu" am dymor byr. Llonwyd ein hysbryd gan ei geinion. Erys yr adgof am dano yn ddarlun teg ar leni ein cof ar ol i'r grand