Tudalen:Oriau yn y Wlad.djvu/69

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

entrance gau arnom, ac wedi i ni gael ein hunian, megis cynt, yn cerdded y ffordd lychlyd sydd wedi ei hordeinio i'r dosbarth cyffredin drwy y byd anwastad hwn i gyfandir llydan Cydraddoldeb!

II. Y LLAN ANGHYFANEDD.

YR wyf yn mwynhau ychydig seibiant yn y wlad. Croesawir fi gan deulu caredig mewn ffermdy tawel. Heddyw, bum drwy y boreu ar ben clawdd yn darllen gan Thoreau. Erbyn hyn, y mae arnaf awydd newid yr olygfa. I ba le yr af? A oes yma rywbeth nad wyf eisoes wedi ei weled? Beth ydyw yr adeilad acw a welir yn y pellder, a choed yn gylch am dano, fel pe yn ei amddiffyn? Ai eglwys ydyw, William? "Ie," oedd yr ateb,—"o'r hyn lleiaf, y mae wedi bod yn eglwys rywbryd." O'r goreu, af i roddi tro tuag ati. Wedi myned drwy weirglodd, croesi y bont bren, ac ymdroi ychydig i edrych ar y pysgod yn ymlafnio at y gwybed, a myned dros un neu ddau o feusydd llydain, dyma fi wrth borth y fynwent. Deued y darllenydd, os myn, gyda mi am enyd i ddistawrwydd y Llan Anghyfanedd.

Haner adfail ydyw yr eglwys: y mae y tô yn rhwyllog, a'r pestl wedi cwympo yn ddarnau ar fwrdd yr allor! Ceir tyllau mawrion yn y ffenestri, trwy ba rai y mae yr adar yn gwibio ol a blaen, oblegid y mae iddynt nythod o'r tu fewn. Yma, yn llythyrenol,—Aderyn y tô a gafodd dŷ, a'r wenol nyth iddi, lle y gesyd ei chywion." Gan fod bolltau rhydlyd yn diogelu y ddôr, efelychwn y teulu asgellog am dro—awn i mewn drwy y ffenestr! Dyna ni yn daclus ar y llawr pridd. Onid yw yn ddistaw ryfeddol, ac eithrio "twi-twi" y wenol ar ei hediad chwim,—

"Fel arf dur yn gwanu 'r gwynt?"