Tudalen:Oriau yn y Wlad.djvu/70

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y mae arnaf awydd dychwelyd heb oedi o'r cysgodion pruddaidd hyn i fwynhau gwên haul ac awel haf. Ond ymbwyllwn. Ie, wele y meinciau syml yn eu lle, ond fod haenau o lwch yn eu gorchuddio. Dyma y fedydd-fan gareg yn y gongl, ond, atolwg, pa bryd y bu dwfr ynddi? Dacw hithau, hen elor y plwyf, yn gorwedd yn y gongl draw. Hongian yn segur y mae rhaff y gloch, a rhyw aderyn beiddgar wedi nythu yn ei bôn. Nid oes yma ond un "sêt," yn ystyr gyffredin y gair—"Sêt y Sgweier," mae'n debyg. Cul iawn yw y pulpud; nid oedd llenwi hwn yn waith anhawdd, mewn un ystyr; yn wir, rhaid oedd i'r person, beth bynag am ei fywioliaeth, fod yn fain! Y mae dau blât pres ar y pared uwchben yr allor, a cherllaw iddi y mae dwy gareg bedd. Yn anffodus, y mae ôl traed cenedlaethau wedi gwisgo ymaith y llythyrenau bron yn llwyr. Meddyliwn am "Old Mortality" gyda'i gŷn a'i forthwyl. Ond yr oedd ganddo yntau ei "bobol;" ni thalai sylw i ddim ond beddau yr hen Gyfamodwyr. Pwy sydd yn gorwedd dan y cerig hyn, tybed?

Bellach, awn allan. Diolch am awyr iach! Nid ydyw y fynwent ond bechan, ac er fod ynddi amryw feddau, ni welir yma ond un "gareg arw," ac nid oes hyd yn nod "ddwy lythyren" ar hono! Yn gwarchod y Llan y mae gwrych tew o ddrain, coed cyll, a thwmpathau o bren bocs o gwmpas y fynedfa. Tra yr wyf yn araf gerdded o amgylch, gwelaf lu o lygaid yn syllu yn ddifrif-ddwys drwy y perthi. Perthyn i'r frawdoliaeth gorniog y maent, hwyrach eu bod yn eiddigeddu am na fuasent o'r tu fewn yn gwledda ar y borfa. Dyweder a fyner, mae rhywbeth yn brudd-ddyddorol mewn hen adeilad llwyd fel hyn, âg ôl danedd Amser ar ei dô a'i furiau. Eisteddais ar dwmpath glaswelltog ar gyfer y porth, gan daflu y ffrwyn ar wâr fy myfyrdodau. . . . Tybiwn glywed y gloch yn galw i'r Gosper ar Sabboth tawel—fwyn yn yr haf. Gwelwn nifer o wladwyr iach, dysyml, yn cerdded yn arafaidd i'r gwasanaeth. Dyna