Tudalen:Oriau yn y Wlad.djvu/72

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hyn y mae nos Sadwrn yn borth allanol i deml y sanctaidd ddydd. Ac y mae ar natur ysbrydol dyn eisieu tawelwch. Melus i'r enaid yw tangnefedd. Dichon na pherffeithir bywyd heb ystormydd gauafol, ond ar gyfer y cyfryw, rhodder i ni hefyd gael yfed o dangnefedd hir-ddydd haf. Ceir hyn mewn gwirionedd yn y lle neillduedig hwn. Dymunol odiaeth ydyw yr aroglau gludir ar edyn yr awel; pêrsawr y gwair addfed, a gwylltion flodau y maes. Mor urddasol ydyw gwedd y maes gwenith gerllaw!

Tra y mae yr amaethwr yn llawenychu wrth weled argoelion am "gnwd da," caf finau, fel ymdeithydd, fwynhau yr olwg ar y grawn melyn yn moesgrymu i'r awelon. Y mae edrych ar faes gwenith yn mis Gorphenaf yn wledd i'r meddwl, a cheir ynddo, yr un pryd, ernes o ddigonolrwydd ar gyfer anghenion tymhorol. Yn y maes gwenith, ebai un bardd, y mae Natur yn

Arlwyo oriel ar wïail arian."

A dyna ryw si tyner, sidanaidd, yn cerdded drwyddo. Beth sydd yn bod? Hyn:—

"Awel o'i fysg rydd lef fan,—Gwel law Iôr
Yn helaeth gofio'r ddynoliaeth gyfan!"

Hyfryd i'r glust hefyd yw gwrando bref yr ychain, a chân ambell i aderyn sydd fel yn methu tewi, er fod adeg gorphwys wedi dyfod. Y fath gyfoeth o liwiau sydd yn addurno y ffurfafen! Môr tawdd yw y gorllewin, a godidog ragorol ydyw machludiad haul. Ac fel y mae y priodfab yn ymgilio, y mae y briodferch, hithau, mewn gwisg arian" yn dringo y nen i chwilio am dano!

Mae cysuron bywyd syml, gwledig, yn aml a sylweddol. Os bydd llygad a chalon i'w mwynhau, ni ddywed neb fod teyrnas Natur yn brin mewn swynion a rhyfeddodau bythol—newydd. Meddylier hefyd am yr