Tudalen:Oriau yn y Wlad.djvu/78

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

I glyw trigolion yr holl wlad,
Gan lwyr ddymuno eu lleshad.

*****

Mor wych eu gweled ar ddydd Llun,
A bochau cochion gan bob un,
Yn d'od yn ol yn llawn o rym,
Am wythnos eto o lafur llym."

Y mae anedd Hywel Tudur—Bryn Eisteddfod,—ar y chwith, ac wedi cael cipolwg ar y "coleg" a'r capel, daethom i ben y daith. Saif y cerbyd gyferbyn a Bodgybi, cartref syml y diweddar Eben Fardd; ac ar yr ochr arall, drwy goed y fynwent, gwelir ei gofadail yn ymyl ffenestr ddwyreiniol eglwys henafol Beuno.

Ni welais Eben Fardd erioed, ni chefais y fraint o adnabod Dewi Arfon. Ond ni byddaf yn sangu ar heol Clynnog heb deimlo awydd i dynu fy het, o barch i'w coffadwriaeth. Sonia y llenorydd Seisnig am classic ground. Onid yw hwn, hefyd, yn llecyn clasurol? mae myfyrdodau Eben Fardd wedi creu rhyw awyrgylch buredig oddeutu'r fro, ac y mae mawredd y meddyliwr distaw, diymffrost, yn cael ei argraffu ar ysbryd y sawl a ddaw yma ar ei hynt. Tawel iawn oedd y pentref y nawnddydd hwn, ac nid rhyfedd hyny. Yr oedd areithyddiaeth yr ardaloedd wedi cyd-grynhoi mewn ystafell gyhoeddus ar y bryniau i ddadleu pwnc addysg. Cwestiwn y dydd ydoedd,—A ddylid cael Bwrdd Ysgol i blwy' Clynnog? Ymddengys fod arwr llawer maes heblaw y Maes Glas wedi bod yn gloewi eu harfau i'r ymgyrch. Bu agos i mi gael fy nhemtio i fyn'd i faes y gâd fel "gohebydd neillduol," ond yr oedd cân y fwyalch yn fy ngwahodd i dreulio awr yn Llwyn-y-ne, llanerch neillduedig, a gwir deilwng o'r enw. Hysbys i'r darllenydd ydyw y traddodiad am y mynach hwnw o gor Beuno a aeth ar ymdaith yn blygeiniol ryw foreu o haf, lawer blwyddyn yn ol. Crwydrodd i'r llwyn, a chlywodd aderyn yn canu yr alaw bereiddiaf