Tudalen:Oriau yn y Wlad.djvu/79

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

erioed. Daeth rhyw ber-lewyg drosto wrth wrando nodau y gerdd. Anghofiodd ei foreufwyd; anghofiodd ddyledswyddau y fonachlog. Tywynai yr haul drwy ddail y coed; canai yr aderyn ganiad newydd. Yno y bu y mynach, fel y tybiai, drwy gydol y dydd, yn gwrando, ac yn mwynhau. Ond pan ddaeth yn ol at borth y fynachlog, nid oedd yno neb yn ei adwaen. oedd can mlynedd wedi diflanu er pan aethai i ffwrdd. Gelwir y llanerch am hyny yn Llwyn-y-ne. Dywedir fod Eben yn dra hoff o'r fan. Treuliodd lawer diwrnod yn y llecyn, a bu yr awen—yr aderyn cyfareddol—yn sibrwd llawer melodi i ddiddanu ei enaid. Pa le hyfrytach i dreulio awr ar nos Sadwrn yn Mai? Nid oes ond ychydig o'r Llwyn yn aros, ond y mae'r adar yn canu'n fendigedig. Y mae yma gymanfa gerddorol, yn ngwir ystyr y gair; yr oll yn bencerddiaid. Y fwyaf aflonydd a symudol ydyw y gog. Weithiau yma, weithiau acw; ar ben carreg fwsoglyd un foment, ar ei haden y funud nesaf, ond yn canu'n ddibaid. Rhyw lais crwydrol—"wandering voice," chwedl Wordsworth, ydyw hi yn mhob man,—

"While I am lying on the grass,
Thy two-fold shout I hear,
From hill to hill it seems to pass
At once far off and near.

"To seek thee did I often rove
Through woods and on the green;
And still thou wer't a hope, a love,
Still hoped for, never seen."

Ond ni raid i mi fyn'd at fardd yr ucheldiroedd am ddarlun o'r gwanwyn. Y mae Eben Fardd wedi ei roddi er's llawer dydd, a hyny oddiar lechweddau Clynnog,—