Tudalen:Oriau yn y Wlad.djvu/80

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Mae ein hadar yn mwyn nodi
Miwsig y nef, yn ein mysg ni,"

****

Mor wyrdd, lân, mor hardd eleni
Mae tir a môr i'm trem i.

"Mae'r eigion yn ymrywiogi—mae'r don
Mor deneu'n ymlenwi,
Moddion tyner! meddant ini,—
Mae yn y nef Un mwy na ni.'"'

Ond rhag i ni syrthio i'r un brofedigaeth a'r mynach gynt, gwell ydyw dychwel gyda min y ffrwd i lawr i'r pentref. Gwelir aml i loyn byw yn methu penderfynu ar lety dros nos. Y mae y gwenyn yn mwmian yn nghangau trwchus y masarn. Onid oes rhyw swyn yn y beroriaeth undonol hon? Ni byddai haf yn haf heb suo—ganiad breuddwydiol y gwenyn yn y dail. Y mae y 'deryn du wedi esgyn i frigyn uchaf yr onen, ac yn arllwys ei hwyrgan uwchben y dorf sydd yn tawel huno yn mynwent Beuno Sant. Mae'r haul yn gwyro i'r gorwel, yn rhuddgoch, fel pelen o dân. Teiff ei adlewyrchiad ar donnau'r môr,—

"Yna'r hwyr gain a rydd
Far o aur ar for y Werydd."

Melus odiaeth ydyw "Nos da" Anian mis Mai.

****

Daeth boreu Sabboth. Y mae swn cloch Eglwys Beuno yn disgyn yn esmwyth a pheraidd ar fy nghlyw. Tywyna'r haul drwy y ffenestr fechan, ac y mae blodau y laburnum, sydd o flaen y ty, wedi eu goreuro gan ei belydrau. Ymestyna'r eigion glas i'r pellderoedd, ac y mae awel adfywiol yn anadlu ar y cae gwair. Dios fod Anian yn cadw Sabboth yn y frodir heddychol hon.. Nid ydyw chwibaniad tren, twrf cerbydau, na chlychau