Tudalen:Oriau yn y Wlad.djvu/81

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ansyber llaeth—fasnachwyr yn blino y galon. Y mae oriel Anian ar ddihun. Od oes gan y côr asgellog ganiadau mwy detholedig na'u gilydd, yr ydym bron a meddwl eu bod yn eu cysegru ar gyfer boreu Sabboth yn Mai. Ac onid ydyw gwrando arnynt yn meithrin addoliad a defosiwn mewn dyn? Yr oedd Pantycelyn. yn hoffi eu clywed; carai wrando ar dannau telyn Anian yng nghynteddau'r sanctaidd ddydd,—

"Am hynny, pob creadur, wel, rhoddwch allan gân,
O'r mwyaf eu maintioli, hyd at y lleiaf mân;
Cyhoeddwch, gyda'ch gilydd, yn llawen, nid yn drist,
Am glod didrai, diderfyn, daioni Iesu Grist.

Chwi adar ar yr aden, sy'n chwareu ar y pren,
Rhowch eich telynau'n barod i foli Brenin Nen.

Anadled yr awelon, murmured pob rhyw nant,
Ryw swn soniarus hyfryd, fel bysedd byw ar dant;
I'r Hwn ei hun sydd ffynnon o ddwfr y Bywyd pur,
Ac yn anadlu o'i Yspryd, gysuron gloew, clir."

Lle dedwydd iawn ydyw capel Clynnog ar Sabboth heulog, nawsaidd, yn Mai. Yr ydych yn gwel'd y môr drwy ddrws yr addoldy,—yn gweled y don, fel pererin, yn penlinio ar y lan. Ac yn gymhleth â lleisiau hoenus y dyrfa, yr ydych yn clywed acenion y fronfraith yn y mangoed gerllaw. Y mae pobl Clynnog yn credu yn yr arfer dda o dd'od i'r addoliad ar foreu Sabboth, ac nid ydyw hun nac hepian yn bechod parod i'w hamgylchu.

Nid ydyw henaint a llesgedd yn ymweled â'r fro hon, ond yn hynod achlysurol. Yma y mae y blaenor Methodistaidd hynaf yn y wlad, onide? Ond pwy fuasai yn meddwl hyny wrth edrych arno yn y sêt fawr, ac yn arbenig wrth ei wrando yn canu? Nid yw mab pedwar ugain ond glaslanc yn y broydd hyn, ac y mae afiechydon diweddar, megis yr influenza, y sciatica, heb ddarganfod y llanerch o gwbl! Y mae ambell un o'r hen bererinion yn marw, ond gwna