Tudalen:Oriau yn y Wlad.djvu/82

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hyny, nid yn gymaint oherwydd llesgedd, eithr am ei fod wedi ei feddianu gan rhyw hiraeth diorphwys,—

"am y wlad
Lle mae torfeydd di—ri
Yn canu'r anthem ddyddiau'u hoes,
Am angeu Calfari."

Un o'r cymeriadau nodedig hyn oedd H. J—— Bron yr Erw. Pwy o honoch chwi, efengylwyr, fyddai yn arfer ymweled â'r Capel Uchaf, na wyddech am dano? Yr ydych yn cofio y dyn bach, cefngrwm, oedd yn eistedd dan y pulpud. Nid oedd ganddo lawer o gorph ar y goreu, ond ymwasgai, rywfodd, nes gwneyd yr ychydig hwnw yn llai—yn sypyn disylw. Ond pan welid cil ei lygad, ar ddamwain, yr oeddid yn deall yn union fod yna feddwl byw, treiddgar, yn tremio drwyddynt. Yr oedd H. J——yn athrylith, ac yn sant. Ychydig cyn ymado â'r byd, rhoddodd orchymyn neu ddau am dano ei hun. Yn mysg pethau eraill, ewyllysiai gael careg fechan uwchben ei fedd, a rhyw ychydig o eiriau plaen wedi eu tori arni.

"Mi fydd cyfarfod pregethu yn yr hen gapel," meddai, "yn mis Hydref. Bydd y pregethwyr yn myn'd i'r fynwent, i fysg y beddau, ac yn deyd wrth eu gilydd, ' Dyma lle y gorwedd yr hen Fron yr Erw.'" Digon gwir, gyfaill dirodres. Daw llawer un gafodd gyngor a gair caredig oddiar dy wefus, i ymweled â'th orweddfa,—

"Tannau euraidd tynerwch,
Gyffry wrth y llety llwch,"

Ond yr ydym wedi crwydro o Glynnog i'r Capel Ucha, pryd mai ein bwriad oedd myn'd i gyfeiriad Capel Seion, neu fel y gelwir ef ar bob dydd—capel y Gyrn Goch, oddiwrth y mynydd serth sydd gerllaw. Cawsom gwmni un neu ddau o efrydwyr oeddynt yn gwybod rhywbeth am Natur yn ogystal ac am Euclid. Buasai