yn rhyfedd iddynt beidio a charu Anian yn y fath lanerch. Y mae amryw o honynt yn lletya yn y lleoedd mwyaf barddonol, yn ymyl gogoniant môr a mynydd. Enw un llety adnabyddus ydyw "Camfa'r Bwth, arall yw Plas Beuno, ac nid ydym yn deall fod efrydwyr y "Bwth" yn cenfigenu wrth efrydwyr y "Plas." Y mae ffynon Beuno, yn cadw Sabboth, ar ymyl y ffordd. Gwelir y Gromlech, wedi ei hamddiffyn gan railings haiarn, yn ngwaelod doldir y Fachwen. Yr ydym yn pasio palasdy mewn llecyn gwir hyfryd, lle y mae un o athrawon Rhydychen yn treulio ei wyliau haf. Yna daw Ty Hen a'i draddodiadau caredig. Y mae coedwig ar yr aswy, a ffrwd risialog yn murmur rhwng y cerig. Daethom at yr addoldy. Y mae yno gynulleidfa dda, ond y mae "oedfa dau o'r gloch" wedi dyweyd cryn lawer ar eu bywiogrwydd cynhenid. Ond ni raid ymadroddi yn hir, ac y mae yr olwg ddiolchgar sydd ar aml wyneb pan ddaw adeg gollyngdod, yn peri i ni gydymdeimlo â'r natur ddynol dan y fath amgylchiadau. Ceir gorphwysfan hapus yn y Mur Mawr; y mae dau ddarlun o Eben Fardd ar y pared, a'r olygfa o'r ardd yn ad—daliad llawn am wres y dydd.
Ceir golwg newydd a gwahanol ar Glynnog wrth ddychwelyd. Y mae gosgedd urddasol y coed deiliog yn rhoddi mawredd ar y fynedfa i'r pentref, ac y mae Eglwys Beuno yn peri i ni feddwl am y canoloesoedd, wrth syllu arni dan dywyniadau haul y prydnawn,—
"Allor Duw er's llawer dydd,
Cor di-baid Cred a Bedydd."
Nid rhyfedd fod gan draddodiadau Eglwys Beuuo gymaint o swyn i Eben Fardd. Yr oedd ei ddychymyg yn ei gludo'n ol i'r oesau gynt, ac yn portreadu y golygfeydd pan ydoedd Cor Beuno yn ei ogoniant, a'r adeilad eang, cysegredig, yn cael ei lanw gan fonachod a phererinion. Anhawdd ydyw edrych ar yr adeilad