mawreddog, yn nghanol distawrwydd dwys hwyrddydd haf, heb i lawer gweledigaeth ymrithio o flaen y meddwl. Yr ydym yn anghofio y presenol, yn crwydro i ryw gyfnod breuddwydiol, ac yn clywed rhyw gerddoriaeth nad ydyw yn bod yn awr. Mor ogoneddus ydyw adlewyrchiad yr haulwen ar y ffenestr fawr, ddwyreiniol, ac mor ysgafn ydyw yr awel sydd yn siglo y glas—wellt uwch y bedd? Yn nhawelwch y fath olygfa, a chyn cau ein llygaid ar Glynnog, nos Sabboth, yn Mai, nis gallwn lai nac ail-adrodd gweddi Islwyn,—
"Finnau, yn llesgedd f' henaint,
Hoffwn, cyfrifwn yn fraint
Gael treulio yno mewn hedd
O dawel ymneillduedd,
Eiddilion flwyddi olaf
Fy ngyrfa, yn noddfa Naf.
Byw arno, byw iddo Ef,
Mwy'n ddiddig, mewn hedd haddef,
A dal cymundeb â'r don,
Byd ail, o wydd bydolion,
Heb dyrfau byd, heb derbyn
Ond y gwyrdd for gefnfor gwyn."
Ond gan nad beth am hyny, yr wyf yn dymuno i Glynnog bob daioni. Llwydded y rhai a'th hoffant, a heddwch fyddo i ti.