Tudalen:Oriau yn y Wlad.djvu/86

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

RHWNG Y MYNYDD A'R MOR.

"Boddlonaf ar fwthyn yn ymyl y bryn,
Ond i mi gael gweled y rhaiadr gwyn;
Tylodi a phrinder sydd well gyda Chymru
Na llawnder y byd a'i ogoniant oll hebddi."

—ISLWYN.

I.

Nos Sadwrn ydoedd,—yr olaf yn Mehefin. Yr oedd y prydnawn wedi bod yn fwll, yn enwedig yn y tren. Er agor y ffenestri led y pen, nid oedd awel d'od o unman. Yr oedd wynebau y merched oedd yn dychwelyd i Eifionydd yn ymddangos mor doddedig a'r ymenyn a gludasid ganddynt i farchnad Caernarfon. Safwyd, fel arfer, yn ngorsaf Bryncir i ddiodi'r peiriant. Ar achlysur tebyg y dywedodd Griffith Jones, Tregarth, wrth y wraig hono, oedd a photel yn ei basged, ac yn gofyn,—"Pam y mae yr engine yn sefyll cyn myn'd i'r stesion?" "O," meddai y ffraethebydd, "cael llymad mae hi, welwch chi; dydi hi ddim yn arfer cario potel."

Yn y maesydd ar dde ac aswy gwelem lanciau a lodesi bochgoch yn trin y gwair. Beth sydd wedi dod o hen orsaf—feistr Llangybi? Yr oedd yn dreat ei glywed yn gwaeddi enw y lle,—"Làn-jib-ei!" ar dop ei lais. Gorsaf fechan, wledig ydyw, ond byddai yr hen frawd—brodor o'r Ynys Werdd, onide?—yn gwneyd iawn am ddinodedd y fangre drwy floeddio yr enw gyda'r fath awdurdod a phe buasai ar blatform Euston. Ond pregethwr arall, mwy distaw, sydd yno yn awr. Wedi dangos y tocynau yn Chwilog, daethom i orsaf adnabyddus Afon Wen. Yno cawsom y fraint o aros hyd nes gwelai awdurdodau y "Cambrian" yn dda ein cludo ymaith. Ond yr oedd y nawn yn deg a'r cwmni yn llawen. Arwr yr ymgom ydoedd Mr. R. Parry, yr